Deintydd
Byddech fel arfer yn mynd at eich deintydd os oes gennych ddannoedd, deintgig poenus neu sy’n gwaedu, cefnddant sy’n peri trafferth, sensitifrwydd yn y dannedd neu fathau eraill o boen wynebol.
Gallwch ddod o hyd i'ch practis deintyddol agosaf drwy'r Cyfeiriadur Gwasanaethau Iechyd drwy ymweld â thudalen y Gwasanaeth Iechyd Lleol ar ein gwefan.
Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod pryd i weld deintydd:
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.