Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n profi pryder iechyd meddwl nad yw'n fater brys neu os oes gennych bryderon am rywun rydych chi'n ei adnabod, eich pwynt cyswllt cyntaf ddylai fod eich meddyg teulu. Bydd eich meddyg teulu wedyn yn penderfynu a oes angen atgyfeirio at dîm iechyd meddwl arbenigol.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, neu os nad ydych yn siŵr ble i droi i gael cyngor ac arweiniad ar eich iechyd meddwl, ffoniwch 111 a phwyswch 2.
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth iechyd meddwl ewch i dudalen Iechyd Meddwl ein gwefan.
Drwy ffonio 111, bydd swyddog galwadau yn eich cynghori ar y lle iawn i gael triniaeth ar gyfer eich cyflwr - gallai hyn fod y Gwasanaeth Brys y Tu Allan i Oriau, yr Uned Mân Anafiadau, eich meddyg teulu, eich fferyllfa gymunedol neu'r Uned Achosion Brys. Gallwch ffonio 111 am ddim.
Am gyngor gofal iechyd pellach, mae’r wefan Cadw Fi’n Iach yn helpu i gefnogi iechyd a lles — p'un a ydych chi'n paratoi ar gyfer triniaeth, yn gwella o driniaeth, yn rheoli cyflwr hirdymor neu'n edrych i fyw bywyd iachach a mwy egnïol. Dyluniwyd y wefan gan glinigwyr a defnyddwyr gwasanaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.