Mae gwybodaeth am y Gwasanaeth Uwch Lleol, dogfennau cymorth cwnsela a dogfen cymorth presgripsiynydd ar gael i gyd ar y Porth Clinigol. (Dim ond o gyfrif GIG y bydd hwn yn gweithio.)
Yn dilyn y rhith-glinigau a'r cwestiynau unigol a ofynnwyd eisoes i'r tîm Atal Strôc, cynhyrchwyd canllaw cwestiynau cyffredin er mwyn ichi weld a oes ateb eisoes i'ch cwestiwn cyn defnyddio e-gyngor.
Mae offeryn archwilio (AF AuditPlus) a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fodd o adnabod cleifion a monitro canlyniad adolygiadau cleifion. Bwriedir ei ddefnyddio gan reolwyr meddygfa a meddygon teulu.
Os nad yw'r dogfennau cymorth Ffibriliad Atrïaidd a'r cwestiynau cyffredin yn gallu ateb eich cwestiwn, defnyddiwch y ddolen isod i gael at y porth e-gyngor i gysylltu â'r tîm prosiect Atal Strôc yn uniongyrchol ynghylch eich claf. Anelir at ymateb i'ch ymholiad cyn pen 4 diwrnod.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi datblygu nifer o ddogfennau arfer gorau i gefnogi presgripsiynwyr a chleifion wrth ymdrin â ffibriliad atrïaidd.
Cynllun aelodaeth am ddim yw BHF Alliance sy'n rhoi cyfleoedd dysgu a datblygu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl y mae clefyd cardiofasgwlaidd yn effeithio arnynt neu sydd mewn perygl o'i gael.
Mae'r prosiect yn berthynol i ganllaw NICE ar reoli ffibriliad atrïaidd.
Mae'n bosibl cofnodi ar eich system meddygon teulu y cod Read ‘Anticoagulation med review’ 8BT3.
Mae'r tîm Gwella Gwasanaeth yn Barhaus yn rhoi cymorth i brosiect Atal Strôc i sicrhau bod y fethodoleg Gwella Ansawdd yn cael ei defnyddio i ddatblygu'r ffordd orau o ddarparu'r cymorth mwyaf defnyddiol i ymarferwyr Gofal Sylfaenol. I gael gwybod rhagor am Wella ansawdd a chael at y rhaglen Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd, trowch at dudalen hafan Gwella Gwasanaeth yn Barhaus ar y Porth Clinigol. (Dim ond o gyfrif GIG y bydd hyn yn gweithio.)
I gael gwybod rhagor am y prosiect, cysylltwch â:
Vicki Burrell
Rheolwr Gwella Gwasanaeth
Llawr 1af, Monmouth House
Ysbyty Athrofaol Cymru
Caerdydd CF14 4XW