Gwybodaeth i gleifion trawsblaniad aren sy'n trosglwyddo i Ysbyty Maelor Wrecsam
Gwybodaeth i gleifion trawsblaniad aren sy'n trosglwyddo i Ysbyty Brenhinol Lerpwl
Gwybodaeth i gleifion trawsblaniad aren sy'n trosglwyddo i Ysbyty Glan Clwyd
Yn ne Cymru, mae'r adnoddau canlynol ar gael i gefnogi'r broses drosglwyddo:
- Rhaglen Ready Steady Go. Datblygwyd yr adnodd hwn gan ein cydweithwyr ym maes arenneg bediatrig yn Southampton ac mae'n berthnasol i unrhyw glaf â chlefyd cronig a fydd ganddo pan fydd yn oedolyn. Mae'r ddolen yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y rhaglen ac mae'n caniatáu i chi lawrlwytho'r dogfennau cysylltiedig. Fel arfer, bydd y broses hon yn cael ei chyflwyno o ryw 13/14 oed.
- Cyflogi gweithiwr ieuenctid, Shaun Thomas, sy'n gweithio yng Nghaerdydd ac yn Abertawe.
- Clinig i oedolion ifanc dan arweiniad Dr Shiv Hegde (arenegwr pediatrig) a Dr Sian Griffin (arenegwr oedolion) yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
- Clinig i oedolion ifanc yn Ysbyty Treforys i hwyluso trosglwyddo cleifion yng ngorllewin Cymru i wasanaethau oedolion. Mae'r clinig hwn dan arweiniad Dr Graham Smith (arenegwr pediatrig), Dr Michelle Jane Ellison (pediatregydd) a Dr Clare Parker (arenegwr oedolion).