Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr Llais y Claf

Ceisiadau yn agor

Beth mae Gwirfoddolwyr Llais y Claf yn ei wneud?

Mae Gwirfoddolwyr Llais y Claf yn cefnogi’r gwaith parhaus ar draws y sefydliad i sicrhau bod lleisiau defnyddwyr gwasanaeth y Bwrdd Iechyd yn cael eu clywed.  Maent yn gwneud hyn trwy dreulio amser yn cynnal arolygon adborth a luniwyd ymlaen llaw gyda'n defnyddwyr gwasanaeth a rhannu adborth cadarnhaol gyda'n staff. Ond mae mwy i'r rôl ac rydym yn eich annog i ddarllen y disgrifiad rôl gwirfoddolwr llawn cyn i chi benderfynu a yw'r rôl ar eich cyfer chi. 

Disgrifiad rôl Gwirfoddolwr Llais y Claf.

 

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i ddod yn Wirfoddolwr Llais y Claf.

Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru / Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Sylwch nad yw'r rôl hon yn cynnwys eiriolaeth na chwnsela.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am rôl Gwirfoddolwr Llais y Claf, rhowch alwad i Kelly yn gyntaf. Gallwch ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 4pm. Y rhif i’w ffonio yw 02921 845359.

Bod yn cadw'r hawl i cau'r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl.