Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr Awdioleg

Mae'r rôl hon yn rôl wirfoddol sy’n ymwneud â chynnal ymweliadau cartref i gefnogi pobl oedrannus a chleifion sâl yn ardaloedd Bro Morgannwg a Chaerdydd.

Fel gwirfoddolwr, byddai eich cyfrifoldebau’n cynnwys ymweld â chleifion i gynorthwyo gyda’r gwaith o drwsio cymhorthion clyw, darparu rhai newydd, a’u gosod, gan roi adborth ar eich ymweliadau i’n hadran. Er bod profiad blaenorol gyda chymhorthion clyw yn fanteisiol, nid yw'n ofyniad, gan y bydd hyfforddiant cynhwysfawr a'r holl offer angenrheidiol yn cael eu darparu.

Mae gwirfoddolwyr fel arfer yn ymweld â 4-6 o gleifion bob 1-2 wythnos. Rydym yn cynnig hyblygrwydd wrth amserlennu; fodd bynnag, oherwydd natur logistaidd y rôl, mae’n hanfodol eich bod yn berchen ar eich car eich hun ac yn gallu gyrru ar gyfer y rôl hon. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n gallu ymrwymo i drefniant tymor hwy.

 

Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk

Os ydych chi'n teimlo nad yw'r rôl yn addas i chi, neu os ydych chi'n chwilio am fwy o hyblygrwydd, efallai yr hoffech archwilio'r gwasanaeth gwirfoddolwyr RNID.

Dweud eich dweud gyda'r Fforwm Cleifion Awdioleg

Yn y Fforwm Cleifion Awdioleg, gallwch:

  •   Roi eich barn ar y gwasanaeth Awdioleg
  •   Trafod syniadau i wella'r gwasanaeth Awdioleg
  •   Helpu i wneud y gwasanaeth Awdioleg yn well i gleifion presennol ac yn y dyfodol

I ymuno, gofynnwch i'ch Awdiolegydd am y Fforwm Cleifion neu e-bostiwch audiology.helpline.cav@wales.nhs.uk