Mae llawer o fathau o sganiau radioisotop ond maen nhw i gyd yn dibynnu ar ychydig bach o draswr ymbelydrol sy'n cael ei ddanfon i gorff y claf i astudio swyddogaeth benodol y corff. Gan ddefnyddio camera arbennig o’r enw ‘camera gamma’, gall meddygon ddelweddu patrwm y traswr ymbelydrol yn y corff i gynorthwyo diagnosis.
Bydd eich meddyg wedi penderfynu ar yr archwiliad delweddu mwyaf addas. Mae'r delweddau sgan meddygaeth niwclear yn hysbysu'ch meddyg o swyddogaeth system gorff benodol. Bydd hyn yn helpu i ddarganfod a rheoli'ch salwch. Mae faint o ymbelydredd a ddefnyddir bob amser yn cael ei gadw mor isel â phosibl ac ni ddylai fod yn beryglus. Mae'r sgan yn ddi-boen; fodd bynnag, gall gynnwys pigiad trwy'r wythïen.
Canfyddwch yr hyn sy'n digwydd cyn ac yn ystod eich apwyntiad sgan
Rhestrir enghreifftiau isod o'r ystod o rannau o'r corff y mae sganiau isotop yn eu delweddu.
8.30am i 5.00pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener
029 2074 6881