O dan Erthygl 22.2 o Orchymyn Ymchwiliad i'r Farchnad Gofal Iechyd Preifat 2014 yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), mae gofyn i ymgynghorwyr anfon gwybodaeth ysgrifenedig am ffioedd cyn ymgynghoriadau cleifion allanol a chyn profion neu driniaeth bellach.
Gofynna'r Gorchymyn fod ysbytai'n sicrhau bod hyn yn digwydd ac yn cyflenwi llythyr templed priodol, a gymeradwywyd gan y CMA, at ddefnydd yr ymgynghorwyr. Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi darparu'r llythyrau templed isod i'w ymgynghorwyr er mwyn i'r cyngor a roir i ddarpar gleifion gydymffurfio â gorchymyn y CMA.
Sylwer bod y llythyrau templed yn nodi lefel yr wybodaeth y dylid ei rhoi'n ysgrifenedig i ddarpar gleifion preifat i hysbysu penderfyniad i ddechrau triniaeth. Bydd y llythyrau templed eu hunain yn cael eu diwygio gan ymgynghorwyr o fewn fframwaith cyfreithiol sylfaenol y CMA i adlewyrchu'r llwybr triniaeth a argymhellir.
Mae gofyn hefyd i'r llythyrau gyfeirio cleifion at wefan y Rhwydwaith Gwybodaeth am Ofal Iechyd Preifat (PHIN) i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am ansawdd perfformiad ysbytai ac ymgynghorwyr.
Er gwybodaeth, ffynhonnell o wybodaeth annibynnol, wedi'i mandadu gan y llywodraeth am ofal iechyd preifat yw PHIN, sy'n gweithio i rymuso cleifion i ddewis darparwr gofal mewn modd mwy gwybodus.
Os na chewch chi'r llythyr templed priodol gan eich ymgynghorydd cyn triniaeth, cysylltwch â'r swyddfa Cleifion Preifat a Thramor.