Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ein cenhadaeth yw ‘Gofalu am Bobl, Cadw Pobl yn Iach’ a’n gweledigaeth yw y dylai siawns person o fyw bywyd iach fod yr un fath ble bynnag y mae’n byw a phwy bynnag ydyw.
Credwn fod gan bawb ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg yr hawl i wasanaethau iechyd meddwl sy’n gwneud y canlynol:
- Yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bob person y maent yn ei wasanaethu.
- Yn rhoi'r gorau i wneud pethau nad ydynt yn gweithio.
- Yn cael eu harwain gan farn yr unigolyn am yr hyn sydd ei angen arnynt a'r hyn sy'n eu helpu.
- Yn trin pawb fel dinesydd galluog sy'n gallu gwneud dewisiadau a chymryd rheolaeth o'u bywyd eu hunain.
- Yn gweithio gyda pharch, urddas a thosturi.
- Yn cydnabod mai dim ond rhan o adferiad person yw gwasanaethau iechyd meddwl.
- Yn cydnabod, parchu a chefnogi rôl gofalwyr, teulu a ffrindiau.
- Yn cyfathrebu â phob person yn y ffordd sy'n iawn iddyn nhw.
- Yn deall bod gan bob person ddiwylliant, profiadau bywyd a gwerthoedd unigryw.
- Yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl i wneud eu penderfyniadau a’u dewisiadau eu hunain.
- Yn cefnogi eu gweithwyr i wneud eu gwaith yn dda.
- Yn herio agweddau "ni a nhw" o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ac yn y gymdeithas ehangach.
Mae gan ein cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth weledigaeth hirdymor o gynyddu gofal cymunedol a modelau gofal a rennir. Rydym yn cofleidio athroniaeth adferiad.