Y bobl orau i lunio gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol yw'r bobl hynny sy'n eu defnyddio.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ein nod yw gweithio’n gydgynhyrchiol gyda defnyddwyr gwasanaethau, a’u gofalwyr, sydd wedi cael profiad bywyd o lywio’r system iechyd meddwl, i’w cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch sut y dylid darparu’r gwasanaethau hyn.
O ganlyniad, mae Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro wedi comisiynu Caniad, sefydliad sy’n cefnogi pobl sydd am i’w lleisiau gael eu clywed, dylanwadu ar benderfyniadau, a helpu i lunio gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Ynghyd ag unigolion sydd â phrofiad bywyd fel defnyddiwr gwasanaeth neu ofalwr, byddwn yn gweithio i gynllunio, datblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
I gael rhagor o wybodaeth am Caniad, neu i gael gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan mewn gwasanaethau iechyd meddwl, ewch i'r dudalen we hon.