‘Cyfranogi’ yw ein dull o godi ymwybyddiaeth o ymchwil sy’n cael ei gynnal yn BIP Caerdydd a’r Fro, y gallech chi fel defnyddwyr gwasanaeth fod â diddordeb mewn cymryd rhan ynddo.
O bryd i’w gilydd, byddwch yn derbyn llythyr am ymchwil a allai fod o ddiddordeb i chi. Os rhannir y wybodaeth â chi, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd rhan. Chi sydd i benderfynu a ydych yn dymuno cymryd rhan mewn ymchwil ac a ydych am dderbyn gwybodaeth am wahanol gyfleoedd.
Gall ymchwil ein helpu i ddeall achosion iechyd meddwl yn well a’n helpu i wella triniaethau, gofal ac ymyriadau a ddarperir o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y DU ac yn rhyngwladol.
Efallai na fydd cymryd rhan mewn ymchwil yn arwain at fuddion ar unwaith. Fodd bynnag, gallwch ddod yn rhan o gymuned ymchwil ehangach gan helpu i wneud pethau’n well yn y dyfodol i lawer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.
Hoffem gynnig y cyfle i bawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd i glywed am ymchwil sy’n digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Os nad ydych eisiau clywed am gyfleoedd ymchwil, mae’n hawdd rhoi gwybod i’r tîm ‘Cyfranogi’. Gallwch wneud hyn drwy un o’r opsiynau canlynol;