Neidio i'r prif gynnwy

Clinical Record Interactive Search

Yma yng Nghaerdydd a’r Fro, rydym yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd gwneud y defnydd gorau posibl o ddata clinigol er mwyn gwella canlyniadau cleifion a’r gwasanaethau a ddarparwn.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i roi system o’r enw CRIS (Clinical Record Interactive Search) ar waith.

Mae hwn yn ddatrysiad technolegol arloesol sy’n ein galluogi i gasglu data yn ddiogel o system Cofnod Clinigol Iechyd Meddwl Electronig y BIP, o’r enw PARIS, ei ddad-adnabod i ddiogelu hunaniaeth cleifion ac yna ei lwytho i gronfa ddata ddiogel.

Yna gellir defnyddio’r gronfa ddata helaeth hon o wybodaeth glinigol gyfoethog, dienw at ddibenion archwilio, gwerthuso gwasanaethau ac ymchwil.

Yn ogystal â darparu adnodd i hwyluso gwelliannau yng ngofal clinigol cleifion iechyd meddwl, bydd CRIS hefyd yn helpu i gyflymu datblygiadau mewn ymchwil iechyd meddwl a all, yn ei dro, drosi i ganlyniadau clinigol gwell trwy ddatblygu triniaethau newydd a darparu gwasanaethau gwell.

Bydd CRIS yn datblygu ein galluoedd ymchwil trwy ein galluogi i edrych ar y wybodaeth glinigol ddiweddaraf yn seiliedig ar niferoedd mawr o bobl.

Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws nodi patrymau a thueddiadau, megis pa driniaethau sy’n gweithio i rai ac nad ydynt yn gweithio i eraill. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall achosion salwch corfforol a meddyliol yn well, a’r ffordd orau o’u trin.

Wrth roi CRIS ar waith, bydd BIP Caerdydd a’r Fro yn ymuno â nifer o Ymddiriedolaethau GIG Iechyd Meddwl ar draws y DU mewn rhwydwaith sydd â’r nod o chwyldroi ymchwil iechyd meddwl a dementia.

 

Sut mae fy manylion yn cael eu diogelu yn CRIS?

Mae meddalwedd CRIS yn tynnu unrhyw wybodaeth o’r cofnod clinigol a allai ddatgelu pwy yw unigolyn, megis enw, cyfeiriad a dyddiad geni llawn. Gelwir y broses hon yn ddad-adnabod. Er enghraifft, mae ‘ZZZZZ’ yn disodli’ch enw, enw’ch gofalwr, eich dyddiad geni llawn, cyfeiriad, cod post a rhifau ffôn.

Unwaith y caiff y wybodaeth ei thynnu, mae CRIS yn llwytho’r data na ellir ei adnabod hwn i gronfa ddata diogel, sydd ar wahân. Mae hyn yn golygu y gellir defnyddio manylion clinigol unigolyn at ddibenion ymchwil neu werthuso, ond nid eu manylion personol.

 

 

Pwy all gael mynediad at CRIS?

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro broses lem ar gyfer caniatáu mynediad at gronfa ddata CRIS. Dim ond ymchwilwyr a chlinigwyr cymeradwy, sydd â chontract gyda’r BIP, sy’n gallu cael mynediad at CRIS.

Rhaid i bob prosiect sy’n dymuno defnyddio CRIS gael ei adolygu a’i gymeradwyo gan Bwyllgor Goruchwylio CRIS a rhaid iddo fodloni’r safonau uchaf er mwyn gallu cael mynediad at y gronfa ddata.

Bydd pob unigolyn sydd wedi’i gymeradwyo i ddefnyddio CRIS yn cael ei fonitro’n llym. Bydd holl weithgarwch CRIS yn cael ei gofnodi ar log archwilio a adolygir yn rheolaidd gan y Pwyllgor Goruchwylio.

Bydd angen cymeradwyaeth annibynnol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG ar gyfer unrhyw brosiectau sy’n ymwneud â dod i gysylltiad â chleifion. I gael rhagor o wybodaeth am ddull y Bwrdd Iechyd o roi gwybod i chi am ymchwil y gallech fod am fod yn rhan ohono, gweler mwy am Gyfranogi.

Mae pob Ymddiriedolaeth GIG o fewn rhwydwaith CRIS yn rhan o Grŵp Llywodraethu Cenedlaethol i sicrhau bod y system yn cael ei gweithredu’n ddiogel.

 

Beth os nad wyf am gael fy nghynnwys?

Os byddwch yn penderfynu ar unrhyw adeg y byddai’n well gennych i’ch nodiadau sydd wedi’u dad-adnabod beidio â chael eu cynnwys yn CRIS, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â thîm CRIS. Gallwch optio allan unrhyw bryd heb unrhyw effaith ar y driniaeth na’r gofal a gewch. 

Gallwch wneud hyn drwy un o’r opsiynau canlynol:              

  • Cwblhau’r ffurflen optio allan ar-lein
  • Cysylltu â’r tîm Cyfranogi dros y ffôn neu drwy e-bost participate.cav@wales.nhs.uk
  • Dweud wrth aelod o’ch tîm gofal
Dilynwch ni