2 Wish
Mae 2 Wish yn darparu cymorth profedigaeth uniongyrchol a pharhaus i deuluoedd, unigolion a gweithwyr proffesiynol y mae marwolaeth sydyn a thrawmatig plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu iau wedi effeithio arnynt.
Gwefan: www.2wish.org.uk
Ffôn: 01443 853 125
E-bost: support@2wish.org.uk
Aching Arms
Aching Arms yn cynnig eirth cysur i ysbytai a gwasanaeth cymorth i deuluoedd sydd wedi profi marwolaeth babi yn ystod beichiogrwydd, adeg ei eni, neu'n fuan ar ôl hynny.
Gwefan: Aching Arms – the charity bringing comfort after baby loss
Llinell gymorth: 07464 508 994
E-bost: support@achingarms.co.uk
Child Bereavement UK
Sesiynau cymorth unigol a chymorth grŵp i rieni a theuluoedd mewn profedigaeth.
Gwefan: www.childbereavementuk.org
Llinell gymorth: 0800 028 8840
E-bost: helpline@childbereavementuk.org
Child Death Helpline
Atebir galwadau gan wirfoddolwr hyfforddedig sydd wedi profi marwolaeth plentyn.
Oriau’r llinell gymorth: Dydd Llun i ddydd Gwener 10am – 1pm, dydd Mawrth a dydd Mercher 1pm – 4pm, yn gynnar gyda’r nos 7pm – 10pm.
Gwefan: www.childdeathhelpline.org.uk
Ffôn: 0800 282 986
Child Funeral Charity
Mae trefnu angladd i blentyn yn rhywbeth na all neb ddychmygu gorfod ei wneud. Ac ar adeg emosiynol iawn, gall pwysau ariannol wrth dalu costau angladd ychwanegu at y gofid. Yr Elusen Angladdau Plant (CFC), yn cynorthwyo teuluoedd sy’n cael trafferth yn trefnu angladd syml, ar gyfer babi neu blentyn o 12 wythnos o feichiogrwydd hyd at 17 oed (at eu pen-blwydd yn 18 oed). Rhaid i’r angladd ddigwydd yng Nghymru neu yn Lloegr. Er nad yw llawer o drefnwyr angladdau, y clerigwyr a’r rhan fwyaf o weinyddion yn codi ffioedd, mae costau eraill sy’n gysylltiedig ag angladd y mae rhieni mewn profedigaeth yn ei chael hi’n anodd eu talu. Mae cymorth ar gael gan y CFC i helpu gyda chostau angladd o’r fath, ynghyd â chyngor ac arweiniad ymarferol.
Gwefan: childfuneralcharity.org.uk
Ffôn: 01480 276088
E-bost: enquiries@childfuneralcharity.org.uk
Sands
Mae Sands eisiau sicrhau bod unrhyw un y mae marwolaeth babi yn effeithio arno yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau posib am gyhyd ag y bo angen.
Gwefan: www.sands.org.uk
Llinell Gymorth Rhadffôn: 0808 164 3332
E-bost: helpline@sands.org.uk
Sibling Support
Cyngor a chefnogaeth i frodyr a chwiorydd o unrhyw oedran.
Gwefan: Sibling Support
E-bost: hello@siblingsupport.co.uk
SUDC UK
Marwolaeth Sydyn Heb Esboniad Yn Ystod Plentyndod (SUDC) yw marwolaeth annisgwyl plentyn rhwng 1-18 oed nad oes esboniad parhaol drosti. Mae’n effeithio ar tua 40 o blant bob blwyddyn yn y DU, sy’n golygu bod tua 1-2 o blant sy'n ymddangos yn iach yn marw bob pythefnos, yn aml yn mynd i gysgu a byth yn deffro. Mae SUDC UK yn elusen gofrestredig sy'n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth, gwneud ymchwil a rhoi cefnogaeth i deuluoedd.
Gwefan: sudc.org.uk/
Rhif ffôn 07880 350942
(Dydd Llun – Dydd Iau 9am-5pm)
E-bost: info@sudc.org.uk
Teddy's Wish
Teddy's Wish yn ariannu ymchwil i achosion o golli babanod ac yn cynnig gwasanaeth cwnsela ar gyfer profedigaeth a phenwythnosau i ffwrdd.
Gwefan: Teddy's Wish Baby Loss Charity (teddyswish.org)
E-bost: support@teddyswish.org
The Compassionate Friends
Cymorth i aelodau o’r teulu wedi marwolaeth plentyn. Cynigir cymorth i unigolion a grwpiau, ynghyd â phenwythnosau i ffwrdd a safleoedd lles.
Gwefan: www.tcf.org.uk
Llinell gymorth: 0345 123 2304
E-bost: helpline@tcf.org.uk
The Lullaby Trust
Cymorth a chyngor i’r rhai y mae marwolaeth sydyn ac annisgwyl babi neu blentyn wedi effeithio arnynt. Mae ‘Webchat’ hefyd ar gael.
Gwefan: www.lullabytrust.org.uk
Llinell gymorth: 0808 802 6868
E-bost: support@lullabytrust.org.uk
The Miscarriage Association
Mae Miscarriage Association yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un y mae camesgoriad, beichiogrwydd ectopig neu feichiogrwydd molar yn effeithio arno.
Gwefan: www.miscarriageassociation.org.uk/
Llinell gymorth: 0192 420 0799
E-bost: Info@miscarriageassociation.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.