Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Cwestiynau cyffredin

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Medi 2026

 
 
 
 

Rydym yn deall y gallai fod angen gwybodaeth, sicrwydd neu gymorth emosiynol ychwanegol ar rai cleifion yn ystod y cyfnod hwn.

Os oes gennych gwestiynau am y saib presennol, os oes angen eglurhad arnoch am eich amgylchiadau unigol, neu os hoffech ofyn am gymorth seicolegol, cysylltwch â: Cav.Concerns@wales.nhs.uk

Er na allwn ateb pob cwestiwn am ganlyniad neu amserlen yr Adolygiad Clinigol Annibynnol eto, byddwn yn parhau i ymateb mor agored â phosibl a darparu diweddariadau pan fydd gwybodaeth newydd yn cael ei chadarnhau.

Gall cleifion sydd angen cymorth iechyd meddwl brys hefyd gael mynediad at wasanaethau drwy:

  • GIG 111 Cymru - Pwyswch 2: Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyswch opsiwn 2. Mae'r gwasanaeth ar gael ledled Cymru, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac mae galwadau am ddim o linell dir neu ffôn symudol.
  • Y Samariaid: Ffoniwch 116 123 yn rhad ac am ddim unrhyw bryd os ydych chi angen rhywun i siarad ag ef.
  • Switsfwrdd: Llinell Gymorth LHDTCRhA+ am ddim.
  • CALL (Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru): Yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl i bobl Cymru.

Os yw bywyd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Achosion Brys agosaf.

Mae gwybodaeth arall am gymorth ac eiriolaeth hefyd ar gael ar dudalennau gwe Gwasanaeth Rhywedd Cymru.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni