Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddod o hyd i ni

CHAP

Parcio

Gyrrwch i ddiwedd Stryd Longcross (un ffordd) a throwch i’r chwith i Stryd Orbit, yna cymerwch y chwith cyntaf i’r maes parcio. Wrth nesáu at y rhwystr, gwasgwch yr intercom i siarad ag aelod o staff a fydd yn rhoi mynediad i chi. Nid oes tâl am barcio.  Nodwch fod y maes parcio wedi’i leoli yng nghefn yr ysbyty. 

Teithio ar Fws

Mae gwybodaeth am fws Caerdydd ar gael drwy ffonio 029 20666444, neu yn www.cardiffbus.com. Y safleoedd bysiau agosaf atom ni yw Piercefield Place, Infirmary 2, Infirmary 3 a Stryd Longcross.

Teithio ar Droed

Os ydych yn cerdded i Ysbyty Brenhinol Caerdydd, gan gerdded o ganol dinas Caerdydd, cerddwch tuag at y brif fynedfa, yna dilynwch y palmant o amgylch i Stryd Longcross. Ni yw’r ail fynedfa ar y chwith (fe welwch chi faes parcio bach). Mae seinydd y tu allan i’r fynedfa, gwasgwch hwn a bydd derbynnydd yn ymateb yn fuan.

Rhif cyswllt

Os bydd angen cymorth arnoch mae croeso i chi ffonio ein tîm derbynfa ar 029 21835449

Dilynwch ni