Neidio i'r prif gynnwy

Y gwasanaeth a ddarparwn

What can we do

Mae ein gwasanaeth ar gael dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 8.30 - 17.00 a dydd Iau rhwng 8.30 - 15.00.

Mae’r Asesiad Cychwynnol (IA) a gynigir gan Wasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro yn cynnwys apwyntiad asesu gyda nyrs/ymwelydd iechyd cymwys. Mae gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn ar gael i unrhyw un sydd ei angen.

Caiff gwybodaeth am y GIG yng Nghymru a sut i gael gafael ar ofal ei darparu yn iaith y cleient lle bo’n bosibl.

Yn ystod yr asesiad, trafodir hanes iechyd a bydd y person sy’n mynychu yn gallu codi unrhyw bryderon iechyd corfforol neu feddyliol a allai fod ganddo. Gwneir archwiliad sylfaenol a chaiff yr unigolyn gyfle i gael profion gwaed sy’n sgrinio ar gyfer heintiau amrywiol y gallai unigolion fod wedi dod i gysylltiad â hwy os gwnaethant deithio o wledydd, neu drwy wledydd, lle ceir nifer uchel o heintiau.

Gellir mynd i’r afael hefyd ag unrhyw anghenion iechyd uniongyrchol, a threfnir apwyntiad gyda Meddyg Cyffredinol, yr Ymarferydd Nyrsio Uwch (ANP) neu weithiwr proffesiynol cofrestredig sydd â chymhwyster mân salwch. Gwneir unrhyw atgyfeiriadau angenrheidiol brys at wasanaethau gofal eilaidd fel y bo’n briodol.

Bydd y tîm hefyd yn nodi unrhyw angen ac yn cynnig imiwneiddiadau a fydd yn amddiffyn rhag heintiau sy’n bresennol yn y DU o hyd.

Mae ein Hymwelydd Iechyd yn darparu gwasanaeth ymwelydd iechyd a gwasanaeth sgrinio i blant ceiswyr lloches newydd anedig a hyd at 5 mlwydd oed, sydd newydd gyrraedd yng Nghaerdydd ac sy’n preswylio mewn llety lloches cychwynnol. Yn ogystal, cwblheir asesiadau anghenion iechyd ac asesiadau sgrinio ymhlith plant rhwng 5 a 17 mlwydd oed sy’n cyrraedd yng Nghaerdydd yn y system lloches, gyda’u rhieni, neu hebddynt.

Ochr yn ochr â hyn mae gennym Fydwraig sydd ar gael i gwmpasu’r holl wasanaethau bydwreigiaeth ar gyfer ceiswyr lloches sy’n feichiog, yn cynnwys gwasanaeth sgrinio iechyd llawn ar gyfer FGM (anffurfio organau cenhedlu benywod).

Dilynwch ni