Mae ein tîm ar gael rhwng 9:00yb a 4:00yh yn ystod yr wythnos i ateb ymholiadau nad ydynt yn rhai brys. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.
Os na allwch gadw eich apwyntiad ysbyty, cysylltwch â ni fel y gellir defnyddio eich slot ar gyfer claf arall.
Mae Cymru yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar bwy sy'n gymwys i gael brechlynnau COVID-19. Bydd y bobl sy'n wynebu'r risg fwyaf o salwch difrifol o haint COVID-19 yn cael cynnig brechiad COVID-19. Rydym yn argymell eich bod yn cael eich brechiad cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.
Ceir rhagor o wybodaeth am y brechlyn COVID-19 yma (yn agor mewn dolen newydd).
Yn gyffredinol, yr un bobl sy'n wynebu risg uchel o COVID-19 â'r rhai sydd mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn gyda'r ffliw. Os ydych chi'n meddwl efallai eich bod wedi methu'r gwahoddiad i gael brechiad y ffliw, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch fferyllfa gymunedol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw yma (yn agor mewn dolen newydd).