Mae ein gwasanaeth clinig cleifion allanol wedi’i leoli’n bennaf yn yr adrannau cleifion allanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, Caerdydd. Efallai y bydd apwyntiadau clinig cleifion allanol hefyd yn cael eu cynnig i chi yn Ysbyty Maelor Wrecsam (agor mewn dolen newydd) neu Ysbyty Cymuned Dinbych (agor mewn dolen newydd).
Fel arall, efallai y cewch gynnig apwyntiad dros y ffôn neu apwyntiad ar-lein trwy alwad fideo. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan TEC Cymru (agor mewn dolen newydd)
Os ydych chi'n glaf ac yn teithio i'r ysbyty neu oddi yno, fel rheol bydd disgwyl i chi drefnu eich cludiant eich hun - p'un a yw hynny'n gyrru, yn defnyddio trefnidiaeth gyhoeddus neu'n gofyn am help gan deulu neu ffrindiau.
Pan nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Gwasanaeth Cludo Celifion Di-argyfwng gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru, yn gallu defnyddio gwasanaethau cludiant cymunedol, neu gael help gyda chostau teithio.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-argyfwng i gleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu, am resymau meddygol, wneud eu ffordd eu hunain i ac o'u hapwyntiadau ysbyty.
Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan y rhai heb angen meddygol.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (agor mewn dolen newydd) neu ffoniwch 0300 123 2303
Os ydych chi'n derbyn Credyd Teulu, Cymorth Incwm, os oes gennych incwm isel neu'n hawlio rhai budd-daliadau eraill, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael help tuag at eich costau teithio pan fyddwch yn teithio i'r ysbyty neu oddi yno. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth gyda chostau teithio'r GIG, ewch i Cymorth gyda chostau teithio’r GIG | LLYW.CYMRU (agor mewn dolen newydd).
I gael Bathodyn Glas, rhaid bodloni’r amodau. Bydd y bathodyn yn rhoi mwy o annibyniaeth i bobl trwy eu helpu i gael y gorau o wasanaethau a chyfleusterau. Gallant fod yn yrrwr neu’n deithiwr. Nid oes rhaid i berson allu gyrru er mwyn cael gwneud cais am Fathodyn Glas. Ar gyfer unigolion mae’r Bathodyn a gall gael ei ddefnyddio mewn unrhyw gar y bydd yr unigolyn yn teithio ynddo.
Am fwy o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais am fathodyn glas, ewch i: Parcio, Bathodynnau Glas a troseddau ffyrdd | LLYW.CYMRU (agor mewn dolen newydd).