Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Ieuenctid a Throsglwyddo

Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn symud o wasanaethau pediatrig i wasanaethau meddygol oedolion pan fyddant yn cyrraedd 16 i 18 oed. Gwyddom y gall fod yn anodd symud i dîm newydd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau ac mae Llywodraeth Cymru am wneud yn siŵr bod Byrddau Iechyd yn cefnogi pobl ifanc wrth iddynt symud i ddefnyddio gwasanaethau oedolion.

Gwyliwch animeiddiad ar beth i'w ddisgwyl wrth symud o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd i oedolion (agor mewn dolen newydd).

Mae gennym gysylltiadau cryf â'n cydweithwyr pediatrig yn Ysbyty Plant Cymru Arch Noa, gan rannu cyfleusterau labordy, addysgu a chyfleoedd hyfforddi. Rydym hefyd yn mynychu clinigau ar y cyd yn rheolaidd yn Ysbyty Plant Cymru Arch Noa i helpu i gefnogi pobl ifanc sy'n trosglwyddo o wasanaethau meddygol pediatrig i wasanaethau meddygol oedolion.

 

 

Dilynwch ni