Mae Care and Respond (agor mewn dolen newydd) yn ap newydd sy'n canolbwyntio ar adeiladu rhwydweithiau gwybodus cryf o amgylch unigolyn. Gall defnyddwyr rannu eu proffil iechyd - a elwir yn basbort - ag eraill, gan gynnwys y gwasanaethau brys a gallant sefydlu grŵp cymorth lleol a all eu helpu mewn argyfwng. Gall y defnyddiwr rannu’r pasbort yn ddiogel â gwasanaethau iechyd, gan godi ymwybyddiaeth o gyflyrau meddygol, a all fod yn brin neu’n gymhleth ac yn aml yn dyngedfennol o ran amser, i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau clinigol.
Mae’r ap wedi’i ddatblygu yng Nghymru gan Science and Engineering Applications Ltd mewn cydweithrediad ag amrywiol grwpiau cleifion a’r GIG, gyda chyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gwneud Cerdyn Gwybodaeth Feddygol (agor mewn dolen newydd) fydd yn helpu i roi gwybodaeth bwysig i barafeddygon a staff gwasanaethau brys eraill os bydd damwain neu argyfwng.
I ofyn am gerdyn gwybodaeth feddygol e-bostiwch peci.team@wales.nhs.uk; gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich enw, cyfeiriad a chod post.
Mae Proffil Iechyd Unwaith i Gymru (yn agor mewn tab newydd) yn darparu dogfen bersonol i bobl ag anabledd dysgu sy'n rhoi manylion am eu proffil iechyd unigol. Gall darparwyr gofal iechyd ddefnyddio'r wybodaeth allweddol hon i ddarparu gofal iechyd diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae cael un offeryn a fydd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru yn ceisio sicrhau bod yr offeryn yn cael ei gydnabod yn glir gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae canllawiau wedi'u datblygu i gyd-fynd â'r proffil iechyd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ac i weithwyr iechyd proffesiynol i'w cynorthwyo i gwblhau'r offeryn a deall sut y dylid ei ddefnyddio.