Mae ERCP (endoscopic retrograde cholangio-pancreatogram) yn driniaeth i chwilio am unrhyw broblemau yn eich dwythell bustl neu ddwythell pancreatig trwy ddefnyddio telesgop hyblyg (gweler ffigur 1).
Mae eich meddyg wedi argymell ERCP. Fodd bynnag, eich penderfyniad chi yw bwrw ymlaen â'r driniaeth hon ai peidio.
Bydd y ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y buddion a'r risgiau i'ch helpu chi i wneud penderfyniad gwybodus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad yw'r ddogfen hon yn eu hateb, gofynnwch i'ch meddyg neu'r tîm gofal iechyd.
Edrych ar ein taflen wybodaeth ERCP
Mae eich meddyg yn poeni y gallai fod gennych broblem yn eich dwythell bustl neu ddwythell pancreatig. Mae cerrig bustl yn eich dwythell bustl neu gulhau eich dwythell bustl yn broblemau cyffredin, a gall y ddau beth achosi clefyd melyn (eich llygaid a'ch croen yn troi'n felyn). Os bydd yr endosgopydd (yr unigolyn sy'n gwneud yr ERCP) yn dod o hyd i broblem, efallai y gallant ei thrin yn ystod y driniaeth.
Mae ffyrdd eraill o edrych ar eich dwythell bustl, megis sgan o'r enw MRCP, neu dechneg o'r enw uwchsain endosgopig. Mae llai o gymhlethdodau gyda'r ymchwiliadau eraill hyn, ond ni ellir eu defnyddio i drin problem, fel y gall ERCP yn aml ei wneud. Efallai eich bod eisoes wedi cael un o'r profion hyn.
Os oes gennych broblem yn eich dwythell bustl, gall llawdriniaeth fod yn ddewis arall yn lle ERCP.
Efallai na fydd eich meddyg yn gallu cadarnhau beth yw'r broblem. Os penderfynwch beidio â chael ERCP, dylech drafod hyn yn ofalus gyda'ch meddyg.
Os ydych chi'n fenyw, efallai y bydd y tîm gofal iechyd yn gofyn i chi gael prawf beichiogrwydd. Mae angen iddyn nhw wybod a ydych chi'n feichiog oherwydd bod pelydrau-x yn niweidiol i fabanod yn y groth. Weithiau nid yw'r prawf yn dangos beichiogrwydd cam cynnar, felly gadewch i'r tîm gofal iechyd wybod a allech chi fod yn feichiog.
Os ydych chi'n cymeryd warfarin, clopidogrel neu feddyginiaeth arall sy'n teneuo'r gwaed, rhowch wybod i'r endosgopydd o leiaf 7 diwrnod cyn y driniaeth.
Os oes gennych ddiabetes ac yn cymryd meddyginiaeth sy'n cynnwys metformin, rhowch wybod i'r tîm gofal iechyd cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd angen i chi roi'r gorau i'w gymryd ar ddiwrnod y driniaeth ac am y ddau ddiwrnod dilynol. Efallai y bydd angen i chi gael prawf gwaed ar ôl y driniaeth cyn parhau â'ch meddyginiaeth.
Edrychwch ar ein taflen wybodaeth ERCP
Peidiwch â bwyta yn y 6 awr cyn y driniaeth. Gallwch yfed llymeidiau bach o ddŵr hyd at ddwy awr ymlaen llaw. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eich stumog yn wag fel y gall yr endosgopydd gael golwg glir ar eich stumog. Bydd hefyd yn gwneud y driniaeth yn fwy cyfforddus. Os oes gennych ddiabetes, byddwch angen cyngor arbennig yn dibynnu ar y driniaeth rydych yn ei chael ar gyfer eich diabetes.
Gall y driniaeth gynnwys eich chwistrellu â meddyginiaeth (Buscopan) i ymlacio'ch stumog a gwneud y driniaeth yn fwy cyfforddus. Gall Buscopan effeithio ar y pwysau yn eich llygaid, felly gadewch i'ch meddyg wybod os oes gennych glawcoma.
Bydd y tîm gofal iechyd yn cynnal nifer o wiriadau i sicrhau bod yn cael y driniaeth y daethoch i mewn i'w chael. Gallwch helpu trwy gadarnhau i'r endosgopydd a'r tîm gofal iechyd eich enw a'r driniaeth rydych chi'n ei chael.
Bydd y tîm gofal iechyd yn gofyn ichi lofnodi'r ffurflen gydsynio ar ôl i chi ddarllen y ddogfen hon, a'u bod wedi ateb eich cwestiynau.
Efallai y rhoddir gwrthfiotigau ichi trwy nodwydd fach yn eich braich neu gefn eich llaw.
Mae ERCP fel arfer yn cymryd 30 i 45 munud.
Bydd yr endosgopydd yn rhoi tawelydd i chi i'ch helpu chi i ymlacio. Byddant yn ei roi i chi trwy nodwydd fach yn eich braich neu gefn eich llaw.
Ar ôl i chi dynnu unrhyw ddannedd gosod neu blatiau ffug, byddant fel arfer yn chwistrellu'ch gwddf â rhywfaint o anesthetig lleol ac yn gofyn i chi ei lyncu. Gall hwn flasu'n annymunol.
Bydd yr endosgopydd yn gofyn ichi orwedd wyneb i lawr neu ar eich ochr chwith a bydd yn gosod darn ceg plastig yn eich ceg.
Bydd y tîm gofal iechyd yn monitro eich lefelau ocsigen a chyfradd y galon gan ddefnyddio clip bys neu droed. Os byddwch angen ocsigen, byddant yn ei roi i chi trwy fwgwd neu diwb bach yn eich ffroenau.
Os ydych chi am i'r triniaeth ddod i ben ar unrhyw adeg, codwch eich llaw. Bydd yr endosgopydd yn dod â'r driniaeth i ben cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
Bydd yr endosgopydd yn gosod telesgop hyblyg (endosgop) yng nghefn eich gwddf. Efallai y gofynnir i chi lyncu pan fydd yr endosgop yn eich gwddf. Bydd hyn yn helpu'r endosgop i basio'n hawdd i mewn i'ch oesoffagws (gwddf) ac i lawr i'ch stumog. O'r fan hon bydd yr endosgop yn pasio i'ch dwodenwm.
Yna, gosodir yr endosgop i edrych ar y papila. Mae'r papila yn gylch bach o gyhyr sy'n rheoli'r hyn sy'n mynd trwyddo.
Mewnosodir tiwb mân trwy'r endosgop ac i'ch dwythell bustl neu ddwythell pancreatig trwy'r papila (gweler ffigur 2).
Fifigur 2 : Tiwb wedi'i fewnosod trwy'r papila
Mae llifyn (hylif cyferbyniad di-liw) yn cael ei chwistrellu i'r dwythellau a chymerir pelydrau-x sy'n dangos y dwythellau.
Os oes cerrig bustl yn eich dwythell bustl, gellir eu tynnu fel arfer drwy ddefnyddio sffincterotomi (toriad yn y papila). Os yw'r cerrig bustl yn fawr, gall yr endosgopydd fewnosod stent (tiwb) yn eich dwythell bustl i helpu i leddfu clefyd melyn. Gall hyn hefyd leddfu clefyd melyn a achosir gan gulhau dwythell eich bustl. Gall yr endosgopydd gyflawni'r camau hyn drwy ddefnyddio'r endosgop ac ni fyddwch angen llawdriniaeth sy'n cynnwys toriad mwy.
Bydd y tîm gofal iechyd yn ceisio gwneud y driniaeth mor ddiogel â phosibl ond gall cymhlethdodau ddigwydd. Gall rhai o'r rhain fod yn ddifrifol a gallant hyd yn oed achosi marwolaeth (risg: 4 o bob 1,000). Rhestrir cymhlethdodau posibl ERCP isod. Daw unrhyw rifau sy'n ymwneud â risg o astudiaethau o bobl sydd wedi cael y driniaeth hon. Efallai y bydd eich meddyg yn gallu dweud wrthych a yw'r risg o gymhlethdod yn uwch neu'n is i chi.
Dylech drafod y cymhlethdodau posibl hyn gyda'ch meddyg os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.
Ar ôl y driniaeth cewch eich trosglwyddo i'r ardal adfer lle gallwch orffwys.
Os rhoddwyd tawelydd i chi, byddwch fel arfer yn gwella mewn tua awr ond mae hyn yn dibynnu ar faint o dawelydd a roddwyd i chi. Unwaith y byddwch chi'n ddigon effro ac yn gallu llyncu'n iawn fe gewch chi ddiod. Efallai y byddwch chi'n teimlo ychydig yn chwyddedig am ychydig oriau ond bydd hyn yn mynd heibio.
Efallai y gallwch fynd adref yr un diwrnod. Fodd bynnag, gall eich meddyg argymell eich bod yn aros ychydig yn hirach. Os cawsoch dawelydd a mynd adref yr un diwrnod, dylai oedolyn cyfrifol fynd â chi adref mewn car neu dacsi ac aros gyda chi am o leiaf 12 awr. Mae angen i chi fod yn agos at ffôn rhag ofn y bydd argyfwng.
Peidiwch â gyrru, gweithredu peiriannau na gwneud unrhyw weithgareddau a allai fod yn beryglus (mae hyn yn cynnwys coginio) am o leiaf 24 awr, a'ch bod wedi adfer teimlad, symud a chydsymudiad yn llawn.
Ni ddylech chwaith lofnodi dogfennau cyfreithiol nac yfed alcohol am o leiaf 24 awr.
Dylech allu dychwelyd i'r gwaith ar ôl tua dau ddiwrnod oni bai y dywedir wrthych am beidio gwneud hynny.
Efallai y cewch ychydig o boen yn yr abdomen dros yr un neu ddau ddiwrnod dilynol. Os bydd hyn yn gwaethygu a'ch bod yn dechrau chwydu, eich bod yn datblygu twymyn ac oerfel, bod eich clefyd melyn yn gwaethygu, eich bod yn dechrau teimlo'n wan ac yn fyr eich gwynt, neu fod eich symudiadau coluddyn yn troi'n ddu, cysylltwch â'r uned endosgopi neu'ch meddyg teulu. Mewn argyfwng, ffoniwch ambiwlans neu ewch ar unwaith i'ch adran Achosion Brys agosaf.