Neidio i'r prif gynnwy

Hepatoleg

Mae gan Uned Afu BIP Caerdydd a'r Fro dîm mawr o feddygon a nyrsys arbenigol sy'n ymroddedig i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i gleifion â chlefyd yr afu.

Triniaeth ar gyfer clefyd yr afu yn BIP Caerdydd a'r Fro

Roedd Caerdydd a'r Fro yn un o'r unedau cyntaf i gofrestru gyda'r cynllun Gwella Ansawdd mewn Gwasanaethau Afu (IQILS) ac mae'n gweithio tuag at achrediad i gydnabod ansawdd uchel y gofal a ddarperir gan ein gwasanaeth. Mae ein cleifion yn rhan annatod o'n llwyddiant ac rydym yn ddiolchgar i'r cleifion sy'n rhoi eu hamser i helpu i ddatblygu ein gwasanaethau ac annog pobl i ymuno â'r grŵp cefnogi cleifion

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a'n perfformiad. Mae ganddi nifer esblygol o adnoddau ar gyfer addysg cleifion, cysylltiadau ag adnoddau allanol a gwybodaeth ar gyfer ein clinigwyr a'n partneriaid atgyfeirio.

Ceir llawer o fathau o glefyd yr afu, a all fod yn etifeddol, wedi'i ddal o feirws neu o ganlyniad i ddefnydd gormodol o sylweddau fel alcohol, neu o fod dros bwysau.

Mae'n hysbys y gall yfed llawer o alcohol arwain at niwed i'r afu. Fodd bynnag, clefyd yr afu brasterog di-alcohol (NAFLD), a achosir yn bennaf gan ordewdra, bellach yw prif achos methiant cronig yr afu. Gall clefyd yr afu brasterog ddatblygu i ddod yn ganser yr afu.

Mae nifer o afiechydon yr afu, gan gynnwys sirosis a ffibrosis yr afu - lle mae meinwe craith yn araf ddisodli'r meinwe afu gweithredol arferol - gan arwain at niwed i'r afu neu fethiant yr afu.

 

 

Dilynwch ni