Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n cael apwyntiad?

Gallwch gael eich atgyfeirio at ein hadran gan eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Os yw'r cyflwr yn un brys, gallwch gael eich gweld yn yr adran Cleifion Allanol.

Newid neu ganslo'ch apwyntiad

Os oes angen ichi newid neu ganslo eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Ffoniwch brif rif yr ysbyty 02920 747747 a gofynnwch am y tîm mynediad cleifion ar gyfer gastroenteroleg.

Cyn eich apwyntiad

Bydd yr holl gyfarwyddiadau ynghylch paratoi ar gyfer eich apwyntiad claf allanol yn cael eu hanfon atoch drwy'r post.
Mae angen paratoi ar gyfer triniaethau endosgopig, gan ddibynnu ar y driniaeth benodol.

Beth i'w ddisgwyl yn eich apwyntiad 

Caniatewch 15 munud ar gyfer eich apwyntiad cyntaf. Mae apwyntiadau dilynol yn para 10 munud.

Gan mai ysbyty addysgu yw hwn, gallai myfyrwyr sy'n cael eu goruchwylio gan staff cymwys fod yn rhan o'ch gofal. Mae'n hyfforddiant gwerthfawr i fyfyrwyr ac nid yw'n effeithio ar ansawdd eich triniaeth mewn unrhyw ffordd, ond dywedwch wrthym os nad ydych eisiau iddynt fod yn bresennol neu gymryd rhan. Byddwn bob amser yn parchu'ch dymuniadau.

Ar ôl eich apwyntiad

Ar ôl eich apwyntiad, byddwn yn anfon llythyr atoch chi a'ch meddyg teulu. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu unrhyw apwyntiadau dilynol os oes angen.

Dilynwch ni