Trwy Ddeddf Diwygio Lles 2012, mae Llywodraeth y DU wrthi'n cyflwyno'r newid mwyaf i'r system les mewn 60 o flynyddoedd. Y nod yw symleiddio'r system, gostwng twyll a chreu cymhellion i weithio trwy sicrhau bod gwaith bob amser yn talu. Dros y 5 mlynedd nesaf, bydd amrywiaeth o ddiwygiadau lles yn cael eu rhoi ar waith. Mae nifer o elfennau:
Mae gwybodaeth fanwl am y newidiadau a sut i gael help neu gyngor yn lleol ar gael ar wefannau awdurdodau lleol:
Mae Cyngor Caerdydd wedi paratoi'r ffeithlenni canlynol, a allai fod yn ddefnyddiol i chi:
Cyngor i Gaerdydd
Mae Cyngor i Gaerdydd yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim i bawb am eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Rydym yn rhoi pwys ar amrywiaeth, yn hybu cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaeth. Gall y gwasanaeth gynnig cyngor ar faterion, gan gynnwys:
Cyngor Cyffredinol
Cyngor Arbenigol
Taflen Cyngor i Gaerdydd
Taflen Ddwyieithog Cyngor i Gaerdydd
Gellir atgyfeirio trwy:
E-bost: enquiries@cardiffadvice.org.uk
Ffôn: Llinell Weinyddol - 029 2087 1015
Gwasanaeth Allgymorth i Mewn i Waith
Mae'r Gwasanaeth Allgymorth i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sy'n chwilio am waith, gan gynnwys clwb swyddi, help i ysgrifennu CV a hyfforddiant cyfrifiadura sylfaenol. Isod, mae manylion y gwasanaethau a'r hyfforddiant a ddarperir, neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2087 1000 neu e-bostiwch - intoworkadvice@cardiff.gov.uk.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a sefydliadau partner eraill i gryfhau'r ddealltwriaeth leol o effeithiau tebygol diwygio lles ac i ddatblygu ymateb cyfunol effeithiol er mwyn diogelu a chefnogi dinasyddion.
Gwefan ddefnyddiol arall gyda gwybodaeth fanwl am y newidiadau yw'r Adran Gwaith a Phensiynau.