I ddod i'r Deyrnas Unedig am driniaeth feddygol, mae'n rhaid ichi allu dangos:
- Eich bod yn bodloni'r gofynion ar gyfer caniatâd i ddod i mewn fel ymwelydd
- Nad oes perygl i iechyd cyhoeddus, os ydych yn dioddef o glefyd trosglwyddadwy
- Bod eich cwrs o driniaeth am amser cyfyngedig
- Eich bod wedi gwneud trefniadau boddhaol ar gyfer yr ymgynghoriad neu driniaeth sydd eu hangen arnoch
- Bod gennych ddigon o arian i dalu am unrhyw driniaeth ac i gynnal a lletya eich hun heb weithio na chael cymorth cyllid cyhoeddus
- Eich bod yn bwriadu gadael y Deyrnas Unedig ar ddiwedd eich triniaeth
Asiantaeth Ffiniau'r DU
Cyfeiriwch at Asiantaeth Ffiniau'r DU ar gyfer gofynion Fisa.