Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd y boblogaeth a systemau gofal iechyd ledled y byd. Fe wnaeth GIG Cymru addasu a newid ei ffocws gweithredol yn gyflym i leihau niwed cymaint â phosibl. Gweithiodd staff y GIG yn ddiflino i gynnal gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y rhai mwyaf anghenus. Fodd bynnag, roedd COVID-19 yn haint newydd ac anrhagweladwy a oedd yn ei gwneud yn anodd iawn ei reoli.
Oherwydd maint a difrifoldeb y pandemig, roedd yn anochel y byddai cleifion yr oedd angen gofal arnynt mewn ysbytai a lleoliadau cleifion mewnol eraill yn wynebu risg uwch o ddal COVID-19. Roedd rheoli lledaeniad COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd yn heriol, yn enwedig pan oedd nifer yr achosion mor uchel yn y gymuned, ac mewn ysbytai, roedd lefelau uwch o gleifion difrifol wael, arhosiadau hwy a mwy o bobl mewn gwelyau ysbytai.
Mae natur y pandemig wedi golygu bod niferoedd anarferolo uchel o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd (a gafwyd yn yr ysbyty) wedi’u cofnodi, sydd wedi effeithio ar tua 18,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth/teuluoedd ledled Cymru.
Ym mis Ebrill 2022, sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd i gefnogi sefydliadau GIG Cymru yn eu dyletswydd i gynnal ymchwiliadau i ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022. Weithiau mae heintiau sy'n deillio o ofal iechyd yn cael eu hystyried yn ddigwyddiad diogelwch cleifion, yn dibynnu ar sut a phryd y cafwyd yr haint.
Mae’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd wedi gweithio gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i greu fframwaith i sicrhau bod sefydliadau GIG Cymru yn mabwysiadu dull mor gyson â phosibl at y broses ymchwilio, gyda’r nod o sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal unwaith ac yn cael eu gwneud yn dda. Hyd yn hyn, mae’r rhaglen wedi cefnogi sefydliadau GIG Cymru i ymchwilio i dros 12,000 o achosion, gan ddarparu rhai atebion i anwyliaid, yn ogystal â chasglu dysgu a phrofiadau.
Gan gydnabod effaith COVID-19 ar ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a staff GIG Cymru, mae’r rhaglen wedi mabwysiadu dull dysgu sy’n ceisio peidio â rhoi’r bai, ond sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddysgu a gwella ohono.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd GIG Cymru ei Adroddiad Dysgu Interim ar y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd,a roddodd trosolwg o’r rhaglen a nodi rhai o’r themâu dysgu cynnar sy’n dod i’r amlwg drwy’r rhaglen. Disgwylir i adroddiad dysgu terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.
Mae tîm adolygu COVID-19 nosocomiaidd pwrpasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bellach wedi cwblhau ei ymchwiliadau diogelwch cleifion sydd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd. Mae’r rhaglen yn estyn ei diolch diffuant i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff am gymryd rhan yn y broses ymchwilio sy’n rhoi cyfle i fyfyrio, dysgu a gwella. Mae'r tîm yn parhau i adolygu’r themâu dysgu, gan ymgysylltu â chydweithwyr i rannu canfyddiadau a chefnogi gwelliant. Mae'r sefydliad yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch cleifion COVID-19 nosocomiaidd y tu allan i ddyddiadau'r rhaglen fel rhan o brosesau adolygu nodweddiadol.
Gall cleifion yr effeithiwyd arnynt, eu teuluoedd a’u gofalwyr y cysylltwyd â hwy fel rhan o’r rhaglen ein cyrraedd o hyd os ydynt yn dymuno trafod unrhyw ymholiadau neu bryderon, drwy ddefnyddio’r manylion isod: