Yn ystod y pandemig COVID-19, roedd y risg o heintio a throsglwyddo’r feirws yn uchel iawn ymhlith ein cymunedau. Cafodd pobl COVID-19 o nifer o ffynonellau.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymchwilio i bob achos o drosglwyddo'r haint COVID-19 yn y maes gofal iechyd, gan ganolbwyntio i ddechrau ar heintiau posibl a gafwyd yn yr ysbyty, a ddiffinnir fel cleifion a brofodd yn bositif am COVID-19 72 awr neu fwy ar ôl cael eu derbyn i’r ysbyty. Gelwir hyn yn COVID-19 "nosocomiaidd” neu “a gafwyd yn y maes gofal iechyd”.
Hoffai'r Bwrdd Iechyd roi sicrwydd i gleifion, eu teuluoedd a'r cyhoedd bod yr holl heintiau a gafwyd yn y maes gofal iechyd yng Nghymru yn cael eu rheoli fel digwyddiadau diogelwch cleifion ac, o'r herwydd, eu bod yn destun adolygiad cymesur yn unol â rheoliadau cenedlaethol – Gweithio i Wella.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi penodi Tîm Ymchwilio COVID-19 a fydd yn ymchwilio i bob achos o COVID-19 Nosocomiaidd ar draws lleoliadau gofal iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Bydd yr ymchwiliadau hyn yn cael eu cynnal yn unol â fframwaith cenedlaethol GIG Cymru - Rheoli digwyddiadau diogelwch cleifion yn dilyn trosglwyddiad nosocomiaidd COVID-19.
Er bod amgylchiadau drwy gydol y pandemig COVID-19 wedi bod yn eithriadol i'n Bwrdd Iechyd, mae gofal a diogelwch cleifion wedi parhau i fod yn flaenoriaethau i ni bob amser.
Mae cwmpas yr ymchwiliadau yn cynnwys:
Bydd yr ymchwiliadau'n edrych ar bob claf a gafodd brawf positif ar, neu ar ôl, diwrnod 3 o gael ei dderbyn i'r ysbyty. Mae hyn yn unol â chyfnod magu'r haint gan y byddai unrhyw beth sy'n llai na 3 diwrnod yn cael ei ddosbarthu fel haint a gafwyd yn y gymuned. Nid yw achosion o COVID-19 a nodwyd fel rhai a gafwyd yn y gymuned yn dod o dan y fframwaith ar gyfer ymchwilio.
Cysylltir â chleifion a theuluoedd maes o law fel rhan o'r broses adolygu hon, ond rydym yn rhagweld y bydd ymchwiliadau'n cymryd dwy flynedd i'w cwblhau, felly byddem yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bod ein Tîm Ymchwilio COVID-19 yn delio â’r rhain.
Yn gyntaf, bydd y tîm yn canolbwyntio ar ymchwilio i achosion o Don 1, a bydd yn rhoi blaenoriaeth i gyfathrebu â'r perthynas agosaf fel y nodwyd ar y cofnod meddygol lle bu farw cleifion o ganlyniad i COVID-19.
Bydd cyswllt cychwynnol drwy alwad ffôn a llythyr dilynol yn amlinellu cylch gwaith yr ymchwiliad. Yna anfonir llythyr yn cadarnhau canlyniad yr ymchwiliad.
Yn ystod yr ymchwiliad, bydd y tîm yn ystyried tonnau'r pandemig fel rhai sy'n cwmpasu'r cyfnodau canlynol:
Os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni'n uniongyrchol fel y gallwn drafod eich pryderon gyda chi.
Gallwch gysylltu â'n Tîm Ymchwilio COVID-19 yn y ffyrdd canlynol: