Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin ar gyfer oedolion sy'n ceisio cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl am y tro cyntaf

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) yn darparu nifer o ymyriadau ar hyn o bryd, gan gynnwys y Ganolfan Ymyriadau Clinigol (CCI), grwpiau seico-addysg ACT-ion for Living wedi'u seilio ar Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT), a grŵp seico-addysg Rheoli Straen. Mae'r rhain i gyd wedi cael canlyniadau cadarnhaol o ran hybu lles y boblogaeth gyffredinol.

Mae llyfrgell o wybodaeth hunangymorth, manylion cyrsiau Haen Sero a gynigir gan PMHSS a gwybodaeth am sut i gael eich atgyfeirio ar gyfer asesiad a chymorth dwysedd uwch ar gael ar wefan PMHSS yn stepiau.org.

Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a'r Fro hefyd yn darparu cyrsiau rhad ac am ddim ar amrywiaeth o bynciau iechyd meddwl a lles. Mae'r rhain ar gael i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd neu sydd wedi'u defnyddio yn y gorffennol, eu gofalwyr, holl staff y Bwrdd Iechyd, neu unigolion sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl yn yr awdurdod lleol a'r sector elusennol. Dysgwch fwy.

         Mae meddygon teulu yng Nghaerdydd a'r Fro yn gallu atgyfeirio i ddarparwyr Haen Sero y Trydydd Sector, ac mae eu cleifion yn gallu hunanatgyfeirio hefyd. Y sefydliadau yw Mind yn y Fro, Mind Caerdydd, 4 Winds ac ACE. Mae hyn yn caniatáu mwy o fynediad at gymorth seicolegol, yn benodol CCI, grwpiau ACT-ion for Living a grwpiau rheoli straen ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol neu sefydlog, difrifol a pharhaus.

Mae'r sefydliadau hyn yn cynnig gwasanaethau cymorth iechyd meddwl eraill hefyd

         Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cydweithio ag amryw sefydliadau'r Trydydd Sector i ddarparu ystod eang o Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl, sy'n cynnwys y canlynol:

Cymorth Haen Sero

  • Mind Caerdydd - 02920 450050
  • Mind yn y Fro - 01446 730392
  • ACE - 02920 003132
  • 4 Winds - 02920 388144

Cymorth Iechyd Meddwl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

  • Yr Ymddiriedolaeth Ofalwyr, De-ddwyrain Cymru - 02921921024
  • Cymdeithas Alzheimer's - 02920434960
  • Riverside - cyngor ar fudd-daliadau a dyledion - 02920 341577
  • Cymorth iechyd meddwl BAME Diverse Cymru - 02920 368888
  • Cyfleoedd galwedigaethol Hafal - 02920565959
  • Gwasanaeth Headroom Barnardo's - 02920 577074
  • Cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau CAVAMH - 02920 222000
  • Tŷ Argyfwng Platfform - connect@platfform.org

Mae'r gwasanaethau/adnoddau a restrir isod ar gael yn genedlaethol

Adnoddau hunangymorth ar-lein gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys manylion cyrsiau ar-lein, apiau, llyfrau, taflenni a gwefannau. Ewch i https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/


Cyrsiau therapi iechyd meddwl ar-lein SilverCloud

Bellach, gall pobl ledled Cymru gael therapi ar-lein rhad ac am ddim heb orfod mynd at eu meddyg teulu.

Gall pobl 16 oed a hŷn sy'n profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol gofrestru i ddilyn cwrs 12 wythnos o therapi ar-lein SilverCloud trwy eu ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.

Mae cyflwyno mynediad uniongyrchol at therapi ar-lein ar gyfer y boblogaeth 16+ gyfan yng Nghymru yn cydnabod bod angen cymorth ar bobl ar unwaith i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles wrth i COVID-19 barhau i gael effaith, ac yn lleihau rhwystrau rhag cael gafael ar y cymorth hwn.

I gofrestru neu gael gwybod mwy, ewch i https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Llinellau cymorth iechyd meddwl

Mae'r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL rad ac am ddim ar gyfer Cymru ar gael 24/7 ac mae'n cynnig cyngor cyfrinachol ar ystod o faterion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, yn ogystal â rhestr gynhwysfawr o wasanaethau cymorth yn eich ardal leol a gwybodaeth am sut i gael gafael arnynt. 

Rhif ffôn: 0800 132 737

Ewch i https://www.callhelpline.org.uk/

Neu tecstiwch ‘help’ i 81066

Siaradwch â'ch meddyg teulu

Os ydych yn teimlo allan o reolaeth yn emosiynol, neu'n pryderu efallai bod gennych broblem iechyd meddwl, mae nifer o gamau cychwynnol y gallech eu cymryd, gan gynnwys siarad â'ch meddyg teulu. 

Mae meddygon teulu'n parhau i ddarparu cymorth yn ystod y pandemig COVID-19 trwy gyfuniad o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, fideo a ffôn.

Gall eich meddyg:

  • Siarad am eich problemau
  • Gwirio p'un a oes rhywbeth corfforol sy'n achosi eich problemau
  • Rhoi meddyginiaeth i chi ar gyfer iselder, gorbryder a chyflyrau eraill
  • Eich atgyfeirio i wasanaeth priodol

Cofiwch: Os ydych yn credu efallai bod eich meddyg yn rhy brysur i drafod eich problemau, gallwch drefnu apwyntiad hir gyda'r derbynnydd. Neu gallech ysgrifennu popeth mewn llythyr a'i anfon at eich meddyg.

Monitro Gweithredol

Mae rhai meddygfeydd yn cynnig gwasanaeth atgyfeirio cyflym o'r enw 'Monitro Gweithredol', a allai eich cynorthwyo i fynd i'r afael â materion fel Rheoli Dicter, Iselder, neu Orbryder. Yn gyffredinol, darperir y gwasanaeth hwn yn wythnosol am 5/6 wythnos ac mae'n ceisio rhoi'r sgiliau i chi allu rheoli eich iechyd meddwl eich hun, yn enwedig os yw teimladau a phryderon penodol yn dychwelyd droeon.

 

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae'n arbennig o bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd camau syml i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles.

Mae'r Pum Ffordd tuag at Les yn amlinellu'r camau syml y gallwn ni i gyd eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles. Gallwch hefyd ddarllen 'awgrymiadau defnyddiol ar gyfer byw pob dydd' ar wefan yr elusen iechyd meddwl MIND a dod o hyd i ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig COVID-19 yma: https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/

Gall anghenion cymorth iechyd meddwl llawer o bobl gael eu bodloni trwy eu meddyg teulu, grŵp hunangymorth, neu drwy therapi ar-lein. Ond efallai y bydd angen mwy o gymorth ar rai pobl. Fe allech gael eich atgyfeirio i'r Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol neu i Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol.  

Os cewch eich atgyfeirio i'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hyn, nid yw hynny'n golygu bod eich problemau'n waeth na rhai pobl eraill, nac y bydd yn cymryd mwy o amser i chi wella. Y cyfan mae'n ei olygu yw y gallai fod angen cymorth mwy arbenigol arnoch i'ch helpu i wella.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth Gartref, y Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol a gwasanaethau cleifion mewnol, wedi parhau i ddarparu cymorth yn ystod y pandemig COVID-19. Fel arfer, bydd arnoch angen atgyfeiriad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael y gwasanaethau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld Cwestiynau Cyffredin ar gyfer pobl sydd eisoes yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl.

Dilynwch ni