Mae gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru wedi bod ar gael drwy gydol y pandemig COVID-19, gyda mesurau ar waith i leihau'r tebygolrwydd o drosglwyddo'r feirws a'ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel.
P'un a ydych chi eisoes yn hysbys i'r gwasanaethau iechyd meddwl, neu'n ceisio cymorth am y tro cyntaf, gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin isod.
Mae'r cwestiynau cyffredin hyn yn amlinellu pa gymorth iechyd meddwl cyffredinol y gallwch ei ddisgwyl, ble bynnag rydych yn byw yng Nghymru. Mae gwybodaeth am gymorth ychwanegol sydd ar gael yn eich ardal leol wedi'i chynnwys, lle y bo'n berthnasol.
Cwestiynau Cyffredin Plant a Phobl Ifanc
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Oedolion