Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin ar gyfer oedolion sydd eisoes yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl oedolion

Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth Gartref a gwasanaethau cleifion mewnol, wedi parhau i ddarparu cymorth yn ystod y pandemig COVID-19. Fel arfer, bydd arnoch angen atgyfeiriad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael y gwasanaethau hyn.

Mae'n bosibl y bydd y ffordd y mae rhai o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu wedi newid yn ystod y pandemig er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o drosglwyddo'r feirws a'ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel.

Cyswllt

Os ydych eisoes yn cael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl eich Bwrdd Iechyd, gallwch ddisgwyl i gysylltiad â'ch cydlynydd gofal neu weithiwr proffesiynol arall yn y tîm sy'n gofalu amdanoch gael ei gynnal.

Pan fydd yn ddiogel, rhoddir dewis i chi o ran pa fath o gyswllt, gan gynnwys ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu fideo, pan fydd ar gael. Dylai eich Cynlluniau Gofal a Thriniaeth fod yn gyfredol, gan gynnwys yr holl fanylion cymorth perthnasol a'ch cynlluniau argyfwng personol.

 

Gwasanaethau cleifion mewnol 

 

Mae ein wardiau cleifion mewnol acíwt yn gweithredu yn ôl yr arfer. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau a newidiadau i'r drefn arferol wedi cael eu cyflwyno ac fe allai'r rhain amrywio yn dibynnu ar yr ardal. Mae manylion y newidiadau hyn ar gael trwy ddilyn y dolenni isod.

 

 

Mynediad at ymyriadau therapiwtig

Mae'r therapïau a ohiriwyd yn ystod cam cychwynnol y pandemig wedi ailddechrau, trwy dechnoleg fideo, ac wyneb yn wyneb pan fo hynny'n briodol yn glinigol.

 

Teuluoedd a gofalwyr

Mae'r cymorth y mae aelodau'r teulu a ffrindiau'n ei roi i rywun sydd â chyflwr iechyd meddwl mor bwysig, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID. Mae cynorthwyo rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl yn gallu bod yn anodd i aelodau'r teulu a ffrindiau, ond mae'n bwysig cofio bod cymorth a chefnogaeth ar gael i chi. Bydd gofalu am eich lles eich hun yn golygu eich bod mewn sefyllfa well i helpu rhywun arall i wella. Mae'n bwysig eich bod yn cael y wybodaeth a'r cymorth mwyaf cyfredol a allai eich helpu i barhau â'ch rôl ofalu/cynorthwyo ar yr adeg hon.

Gall sefydliadau gofalwyr ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth perthnasol. Gallant:

  • Eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun i siarad ag ef
  • Rhoi gwybod i chi am eich hawliau (gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles)
  • Eich helpu i gael asesiad gofalwyr
  • Eich helpu i ddatblygu cynllun sy'n cefnogi eich anghenion
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau gofalwyr lleol fel y gallwch gysylltu â gofalwyr eraill

Mae'n bwysig eich bod yn cofio eich bod yn gwneud eich gorau ar yr adeg anodd iawn hon, felly byddwch yn garedig i'ch hun.

 

 

Dilynwch ni