Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn COVID-19, Beichiogrwydd a Bwydo ar y Fron

Cyngor am Frechlyn COVID-19 i Fenywod Beichiog

 

Mae risg uwch o lawer fod haint COVID-19 yn ystod beichiogrwydd yn arwain at orfod mynd i’r ysbyty a salwch difrifol o’i gymharu â’r boblogaeth sydd ddim yn feichiog, yn enwedig yn ystod y tri mis olaf, ac mae risg uwch o eni’n gynnar.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (RCOG) a Choleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) ill dau yn argymell y brechlyn fel yr amddiffyniad gorau yn erbyn haint difrifol.

 

Trafodwch y brechlyn gyda ni:

  • Os ydych chi’n feichiog ac mae gennych gwestiynau am frechlyn COVID-19, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch obstetrydd.
  • Os ydych chi’n feichiog a does dim bydwraig gennych eto, ffoniwch ein Swyddfa Bydwragedd Cymunedol ar 02920 745030.

 

Gwybodaeth Bwysig

  • Y cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yw y dylai brechlynnau COVID-19 gael eu cynnig i fenywod beichiog yr un pryd â gweddill y boblogaeth, yn seiliedig ar eu hoedran a’u grŵp risg clinigol. Dylai menywod drafod manteision a risgiau cael y brechlyn gyda’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a dod i benderfyniad ar y cyd yn seiliedig ar amgylchiadau unigol.
  • Ni ddylech roi’r gorau i fwydo ar y fron er mwyn cael eich brechu rhag COVID-19.
  • Does dim angen i fenywod sy’n ceisio beichiogi osgoi beichiogrwydd ar ôl cael y brechlyn a does dim tystiolaeth sy’n awgrymu y bydd brechlynnau COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb.

 

Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr

Taflen wybodaeth a chymorth i wneud penderfyniad

Cwestiynau ac atebion – brechlynnau COVID-19, beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Fideo defnyddiol am y brechlyn a beichiogrwydd

 

Coleg Brenhinol y Bydwragedd

A ddylwn i gael brechlyn COVID-19 – taflen arweiniad

Ffeithiau am y brechlyn – canllaw i fenywod beichiog

Cwestiynau ac atebion am y brechlyn

 

Dolenni defnyddiol eraill

GIG - Beichiogrwydd, bwydo ar y fron, ffrwythlondeb a brechlyn COVID-19

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Brechlyn COVID-19 a beichiogrwydd

Public Health England - Brechlyn COVID-19: canllaw i bob menyw o oedran cael plant, sy’n feichiog neu sy’n bwydo ar y fron

Iechyd Cyhoeddus Cymru - fideo yn trafod y brechlyn COVID-19 a beichiogrwydd

Iechyd Cyhoeddus Cymru - sioe sleidiau ar y brechlyn COVID-19 a beichiogrwydd

 

Dilynwch ni