Cafodd Rhaglen Offthalmoleg Ranbarthol De-ddwyrain Cymru ei sefydlu i helpu pobl i gael mynediad at ofal llygaid yn gyflymach drwy ddod â gwasanaethau ynghyd o bob rhan o ardal y tri bwrdd iechyd. Drwy gydweithio agosach, mae'r rhaglen wedi gwella'r defnydd o staff a chyfleusterau, lleihau amseroedd aros a sicrhau y gellir cynnig triniaeth i gleifion yn y lleoliad addas cyntaf sydd â chapasiti ar gael ar draws y rhanbarth.
Cafodd mwy na 25,000 o lawdriniaethau cataract eu cynnal ledled De-ddwyrain Cymru y llynedd, gan leihau rhestrau aros o dros 9,600 o gleifion ac adfer golwg i filoedd.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.