Parc Iechyd Llantrisant

Yng ngaeaf 2027, bydd cam cyntaf Parc Iechyd Llantrisant, canolfan ddiagnostig a thriniaeth newydd fawr ar gyfer de-ddwyrain Cymru sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yn ardal Cwm Taf Morgannwg, yn agor. 

Mae'r Parc Iechyd yn enghraifft bwysig o sut mae'r tri bwrdd iechyd yn cynllunio gyda'i gilydd i wella mynediad at brofion, sganiau a llawdriniaethau wedi'u cynllunio i bobl ledled de-ddwyrain Cymru.