Beth mae gweithio rhanbarthol yn ei olygu i gleifion a chymunedau?

I gleifion, gall cydweithio ar draws byrddau iechyd olygu: 

  • Mynediad cyflymach at driniaeth arbenigol 
  • Gofal mwy cydgysylltiedig rhwng gwasanaethau 
  • Safonau gofal cyson lle bynnag rydych chi'n byw 
  • Mynediad gwell at arbenigedd 

Bydd gwasanaethau lleol yn parhau i fod wrth wraidd y ffordd rydym yn gofalu am bobl. 

Mae gweithio rhanbarthol yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o'r arbenigedd, y profiad, yr offer a'r capasiti sydd ar gael ledled de-ddwyrain Cymru, gan ein helpu i ddarparu'r gofal, y profiad a'r canlyniadau gorau posibl i'n cleifion.