Neidio i'r prif gynnwy

Y Gymraeg mewn Gofal Iechyd

Ein Nod o ran y Gymraeg

Ein nod yw creu amgylchedd sy'n annog ac yn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer ein cleifion sy'n siarad Cymraeg, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ac aelodau'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg, er mwyn iddynt deimlo'n gartrefol.

Ein Dyletswyddau o ran y Gymraeg

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei hysbysiad cydymffurfio ar 30 Tachwedd 2018, a bu'n rhaid iddo gydymffurfio â'r Safonau a oedd wedi'u rhestru yn yr hysbysiad hwnnw ers 30 Mai 2019.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r Hysbysiad Cydymffurfio.

Mae pawb sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Safonau - y rhai sy'n berthnasol i'r Bwrdd Iechyd Prifysgol cyfan a'r rhai sy'n benodol i rolau unigol. Mae rheolwyr llinell yn gyfrifol am sicrhau bod eu timau'n cydymffurfio â'r Safonau.

Mae'r ddolen isod yn dangos sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn helpu staff i ddarparu gofal i'n cleifion yn Gymraeg trwy gyfleoedd hyfforddi ac arweiniad, ac yn monitro'r wybodaeth honno ar gyfer ein hadroddiadau blynyddol.

Cymraeg ar gyfer ein staff

 

Mae'r dyletswyddau sy'n deillio o'r Safonau yn golygu na chaiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a bod rhaid iddo hyrwyddo a hwyluso defnydd o'r Gymraeg, gan ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau pob dydd.

Mae'r Safonau'n fanwl iawn, ond dyma grynodeb o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

  • Bydd ein gohebiaeth gyffredinol, arwyddion, gwefan a chyfryngau cymdeithasol ar gael yn ddwyieithog
  • Bydd gwasanaethau ffôn ac wyneb yn wyneb ar gael yn ddwyieithog
  • Os ydych wedi gwneud ymholiad neu gŵyn, neu gais am swydd gyda'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn Gymraeg, ni fydd yr iaith a ddewisoch yn arwain at unrhyw oedi.

Mae proses ar gael bellach ar gyfer pryderon ynghylch cydymffurfiaeth gorfforaethol â Safonau'r Gymraeg.

Cynllun Ymgynghori Clinigol – y Gymraeg

Ein Cynnydd o ran y Gymraeg

Gweler isod ein hadroddiadau cynnydd blynyddol ar y Gymraeg. Bydd yr un diweddaraf, sy'n nodi cynnydd a chyflawniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn ddiweddaraf, yn cael ei gyhoeddi yma'n flynyddol, pan fydd wedi'i gymeradwyo.

Anogwyd staff y Bwrdd Iechyd i 'Feddwl yn Gymraeg'

Dilynwch ni