Cyflawni gofal cydgysylltiedig yn seiliedig ar ‘gartref yn gyntaf’, osgoi niwed, gwastraff ac amrywiad, grymuso pobl a rhoi canlyniadau sy’n bwysig iddynt.
Grymuso’r Person
- Cefnogi pobl i ddewis ymddygiadau iach
- Annog hunanreolaeth cyflyrau
Gartref yn Gyntaf
- Galluogi pobl i gynnal neu adfer eu hiechyd yn eu cartref neu mor agos ato â phosibl
Canlyniadau sy’n bwysig i bobl
- Creu gwerth drwy gyflawni’r canlyniadau a’r profiad sy’n bwysig i bobl am gost briodol
Osgoi niwed, gwastraff ac amrywiad
- Mabwysiadau ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, gan safoni fel y bo'n briodol
- Gwneud defnydd llawn o’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, gan fyw o fewn y cyfanswm
- Lleihau niwed y gellir ei osgoi
- Cyflawni canlyniadau drwy’r ymyrraeth briodol lleiaf posibl
|
Ar gyfer Ein Poblogaeth – byddwn yn:
- lleihau anghydraddoldebau iechyd;
- sicrhau canlyniadau sy’n bwysig i bobl; a
- sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb am wella ein hiechyd a’n lles.
Ein Blaenoriaethau Gwasanaeth – byddwn yn:
- cynnig gwasanaethau sy’n rhoi’r iechyd poblogaeth y mae gan ein dinasyddion yr hawl i’w ddisgwyl.
Cynaliadwyedd – bydd gennym:
- system o ofal heb ei gynllunio (brys) sy’n rhoi’r gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf;
- system gofal wedi’i gynllunio lle mae’r galw a’r gallu yn gytbwys; a
- byddwn yn lleihau niwed, gwastraff ac amrywiad yn gynaliadwy gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i ni.
Diwylliant – byddwn yn:
- lle gwych i weithio a dysgu;
- gweithio’n well gyda phartneriaid i ddarparu gofal a chefnogaeth ar draws y sectorau gofal, gan wneud y defnydd gorau o’n pobl a thechnoleg; a
- rhagori ym meysydd addysgu, ymchwil, arloesedd a gwelliant a darparu amgylchedd lle mae arloesedd yn ffynnu.
|