Neidio i'r prif gynnwy

Strwythur Ein Bwrdd Iechyd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw un o sefydliadau mwyaf y GIG yn Ewrop. Rydym yn cyflogi tua 14,500 o staff ac yn gwario tuag £1.4 biliwn bob blwyddyn ar ddarparu gwasanaethau iechyd a lles i boblogaeth o ryw 472,400 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Hefyd, rydym yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws de a chanolbarth Cymru ar gyfer amrywiaeth o arbenigeddau. 

Ein gweledigaeth yw creu cymuned lle nad yw dewis bywyd iach yn dibynnu ar bwy ydych chi na lle'r ydych chi'n byw.

Rydym yn Fwrdd Iechyd addysgu gyda chysylltiadau agos â'r sector prifysgol a, gyda'n gilydd, rydym yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn gweithio hefyd ar ymchwil a fydd, gobeithio, yn arwain at iachâd ar gyfer clefydau heddiw.

Ein Gwasanaethau
 

  • Gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned: Cynnig gwasanaethau iechyd llinell gyntaf mewn meddygfeydd meddygon teulu, deintyddion, optometryddion ac amrywiaeth o wasanaethau therapi a gwasanaethau yn y gymuned, sydd ar gael mor agos â phosibl at y cartref.
  • Gwasanaethau acíwt trwy ein dau brif Ysbyty Athrofaol a'n Hysbyty Plant: Darparu amrywiaeth eang o driniaethau ac ymyriadau meddygol a llawfeddygol.
  • Iechyd y Cyhoedd: Gwella iechyd ein poblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. Darparu gwybodaeth a chyngor am ofal iechyd ataliol, gan gynnwys mynediad at wasanaethau iechyd a llesiant.
  • Canolfan drydyddol: Hefyd, rydym yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws Cymru ac, yn aml, y Deyrnas Unedig, trwy wasanaethau cymhleth a thriniaethau arbenigol, fel gwasanaethau cardiaidd a niwrolawdriniaeth.
  • Gwasanaethau Corfforaethol: Darparu'r gwasanaethau cymorth y mae eu hangen i redeg system iechyd integredig ar draws Caerdydd a'r Fro, gan sicrhau diogelwch cleifion, llywodraethu, sicrwydd ansawdd, perfformiad a bod pob gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n rhagorol.
     

Ein Strwythur 

Mae gennym weithlu o ryw 14,500 o staff sy'n cyflwyno gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson i'n holl gleifion. Mae ein sefydliad wedi'i strwythuro a'i gynllunio'n wyth Bwrdd Clinigol sy'n cwmpasu'n pedwar prif faes gwasanaeth a llawer mwy. 

Crëwyd yr wyth Bwrdd Clinigol ym Mehefin 2013 ac maent wedi llwyddo i ddarparu arweinyddiaeth gadarn mewn meysydd clinigol ac maent wedi arwain at wneud penderfyniadau gweithredol yn gynt, gan wella'r canlyniadau i gleifion yn eu gofal yn sylweddol. Caiff y Byrddau eu dwyn i gyfrif trwy'r Cyfarwyddwyr Gweithredol a chaiff proses graffu ei sicrhau trwy fyrddau perfformiad misol a phroses awdurdodi gadarn.  
 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

Iechyd y Cyhoedd

Gwasanaethau Corfforaethol 


Bwrdd Clinigol Plant a Menywod   |  Bwrdd Clinigol Therapiwteg a Diagnosteg Glinigol  |  Bwrdd Clinigol Meddygaeth  |  Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl   |  Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Arbenigol  |  Bwrdd Clinigol Llawfeddygaeth 


Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol 


Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol   |  Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol  |  Gwasanaethau Fferylliaeth Gymunedol  |  Gwasanaethau Optometreg     Clystyrau'r Gogledd-orllewin   |  Clystyrau'r De-ddwyrain   |  Clystyrau'r Fro

 

 

 

Dilynwch ni