Mae Technegwyr Fferyllfa yn weithwyr fferyllol proffesiynol sy’n chwarae rhan annatod wrth helpu cleifion i wneud y gorau o’u meddyginiaethau.
Maent yn ymgymryd ag agweddau technegol ar reoli meddyginiaethau e.e. gwirio techneg mewnanadlwyr, cydamseru meddyginiaethau, adolygu rhagnodi rheolaidd, ac yn aml maent yn ymwneud ag archwiliadau rhagnodi o fewn practisau meddygon teulu.
Mae’r rolau hyn yn datblygu’n gyflym ac mewn rhai meysydd mae technegwyr fferyllfa yn ymgymryd â rolau dadansoddi data rhagnodi ac adolygiadau triniaeth o fewn protocol penodol.
Er mwyn bod yn dechnegydd fferyllfa bydd angen i chi gwblhau cwrs achrededig cyn cofrestru gyda’r rheoleiddiwr, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).