Neidio i'r prif gynnwy

Cynghorydd Rhagnodi

Caiff cynghorydd rhagnodi ei gyflogi gan y Bwrdd Iechyd ac mae ganddo rôl strategol i ganolbwyntio ar sicrhau’r budd mwyaf posibl a lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau yn ogystal â gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau a ddyrennir ar gyfer meddyginiaethau, gweithredu blaenoriaethau iechyd cenedlaethol ar lefel leol a dylunio llwybrau triniaeth.

Gall ddarparu cymorth i bractisau a chlystyrau gofal sylfaenol drwy ddata rhagnodi a gwaith dadansoddi, a hwyluso’r broses o ddatblygu gwasanaethau sy’n ymwneud â rheoli meddyginiaethau ar draws pob proffesiwn, a gall weithio mewn practisau meddygon teulu yn unol â blaenoriaethau’r Bwrdd Iechyd.

Dilynwch ni