Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolradd, neu PCIC, yn aml yw drws ffrynt y gwasanaeth gofal iechyd ac mae'n cwmpasu ystod eang o ddarpariaethau i sicrhau bod ein poblogaeth o gleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau arbenigol yn eu cymuned.
Gan weithio #YnEinCymuned, maeweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn darparu gofal amhrisiadwy i bobl yn eu cartrefi eu hunain, cartrefi gofal, canolfannau gofal iechyd cymunedol, yn eu practisau meddyg teulu neu mewn clinigau yn eu cymuned. Mae ein tîm amrywiol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws ein timau PCIC yn cefnogi cleifion i sicrhau eu bod yn derbyn gofal diogel ac effeithiol, sydd nid yn unig yn galluogi cleifion i aros yng nghysur eu cartrefi eu hunain, ond hefyd yn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty.
Cymerwch gipolwg ar rai o’r rolau cyffrous sydd ar gael gennym! Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru)
Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys:
Os ydych yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau neu symud i ofal sylfaenol, cymunedol neu ganolraddol, cysylltwch â primaryandcommunitycareacademy.cav@wales.nhs.uk.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.