Mae eich optometrydd, neu eich optegydd ar y stryd fawr, yno ar gyfer anghenion iechyd y llygaid, fel problemau gyda’ch golwg, poen llygaid neu anaf yn y gymuned. Mae ganddynt dechnoleg arbenigol i roi diagnosis, trin a helpu i reoli eich anghenion gofal llygaid.
Boed ar gyfer prawf llygaid rheolaidd, problem llygaid brys, problem gyffredin fel llygaid sych neu help i reoli cyflyrau fel glawcoma neu glefyd llygaid diabetig, mae'r arbenigwyr hyn yma i ofalu amdanoch.
Mae gofal llygaid yng Nghymru wedi newid i wneud pethau'n haws i chi. Bydd gennych bellach fynediad at fwy o wasanaethau yn nes at eich cartref, felly nid oes angen teithio'n bell i gael y gofal sydd ei angen arnoch.
Os ydych chi'n poeni am eich llygaid neu'ch golwg, cysylltwch â'ch optometrydd lleol ar unwaith. Gallwch fynd at eich optometrydd presennol os oes gennych un neu gysylltu ag unrhyw bractis sy'n gyfleus i chi ei gyrraedd.
Yn ystod archwiliad llygaid brys, bydd eich optometrydd yn gwirio'ch llygaid yn ofalus i weld beth sy'n achosi'r broblem. Byddant yn defnyddio gwahanol offer a phrofion yn seiliedig ar eich symptomau ac mae'r math hwn o archwiliad yn fwy trylwyr na phrawf golwg arferol a gall gymryd ychydig mwy o amser.
Os bydd eich optometrydd yn penderfynu eich bod yn gymwys i gael Archwiliad am ddim ar gyfer Problemau Llygaid Brys, bydd yn rhad ac am ddim.
Os oes angen gofal llygaid brys arnoch y tu allan i oriau, gallwch gysylltu â GIG 111 Cymru am gyngor.
Os oes gennych lygaid sych a llid yr amrannau, efallai y bydd eich Fferyllydd Cymunedol yn gallu darparu triniaeth am ddim o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Fferylliaeth Gymunedol.
O dan Wasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS), gallwch gael mynediad at wahanol lefelau o ofal llygaid i weddu i’ch anghenion.