Mae nyrsys ymarfer cyffredinol yn gweithio o fewn practisau meddygon teulu ac yn rhan o’r tîm gofal sylfaenol. Byddech fel arfer yn mynd at eich nyrs ymarfer cyffredinol i gael gofal clwyfau, cyngor ar ddulliau atal cenhedlu ac adolygiadau, imiwneiddiadau, monitro gwaed ac adolygiadau salwch cronig, fel asthma a diabetes.
Mae gan bob aelod o’r tîm gofal sylfaenol sgiliau ac arbenigedd mewn gwahanol feysydd, sy’n eich galluogi i gael y cymorth iawn, gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn, y tro cyntaf. Gall derbynnydd eich meddyg teulu drefnu apwyntiad i chi gyda’ch nyrs ymarfer cyffredinol os mai dyma’r person mwyaf addas ar gyfer eich anghenion gofal iechyd.
Mae Loren yn nyrs ymarfer cyffredinol yng Nghaerdydd. Mae hi wedi bod yn nyrs gymwysedig ers tair blynedd a hanner a dechreuodd ym maes gofal sylfaenol bron i ddwy flynedd yn ôl ar ôl ymuno â’r Rhaglen Sylfaen GPN.
I ddarganfod mwy am rôl nyrs ymarfer cyffredinol a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, gwyliwch y fideo isod.
I ddarganfod mwy am Wasanaethau Gofal Sylfaenol a dod o hyd i’r gwasanaethau sydd agosaf atoch chi, ewch i Gwasanaethau Gofal Sylfaenol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales).