Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro groesawu ymwelwyr i'n safleoedd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi eich teulu a'ch ffrindiau yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty.
Cydnabyddir na all canllawiau ragweld pob cais i ymweld na holl amgylchiadau cleifion. Dim ond os cytunir ar hynny gyda staff y ward y gellir ymweld â chleifion sydd â haint neu sy’n hunanynysu ar hyn o bryd oherwydd cysylltiad â Covid-19 neu heintiau eraill. Bydd achlysuron lle gallai ymweliadau gael eu hatal neu eu cyfyngu o dan yr amgylchiadau hyn er mwyn amddiffyn cleifion, staff a'n cymunedau.
Rhaid i ymwelwyr fod yn ymwybodol o risgiau trosglwyddo COVID-19 a’r mesurau rheoli heintiau sydd ar waith gan gynnwys defnyddio unrhyw gyfarpar diogelu personol sy’n ofynnol yn ystod eu hymweliad.
Egwyddorion Cyffredinol
Gofynnir i ymwelwyr beidio ag ymweld os ydynt yn teimlo'n sâl.
Gall pob claf gael dau ymwelydd fesul ymweliad sy'n gyswllt teuluol neu'n rhywun sy'n bwysig i'r claf. Mae amseroedd ymweld y ward yn cael eu hysbysebu ar y wefan.
· Nid oes rhaid trefnu ymweliadau ymlaen llaw gyda'r ward
· Byddem yn cynghori na ddylai un ymweliad bara fwy na 2 awr
· Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir ymweld ar ôl 8pm, yn unol â chytundeb Rheolwr y Ward
Cofiwch olchi/diheintio dwylo wrth fynd i mewn a gadael yr ysbyty a'r ward. Rhaid i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb (oni bai eu bod wedi'u heithrio'n feddygol) os gofynnir iddynt wneud hynny gan staff y Bwrdd Iechyd.
Cleifion allanol
Gall cleifion sy'n mynd i un o'n hysbytai am apwyntiad cleifion allanol gael uchafswm o ddau berson i ddod gyda nhw os oes angen. Fodd bynnag, byddem yn parhau i ofyn lle bo'n bosibl i fynychu ar eich pen eich hun neu i gael un person gyda chi.
Ymweld ag Uned Achosion Brys neu Adran Asesu
Os ydych yn dymuno, gallwch ddod ag un person gyda chi. Ar adegau prysur, efallai y byddwn yn gofyn i'r person sy'n dod gyda chi aros yn rhywle arall dros dro os nad oes llawer o le yn yr adran.
Cydnabyddir, ar gyfer Gofalwyr a phobl sy'n helpu gydag adsefydlu, ar gyfer pobl ag anghenion dysgu neu iechyd meddwl, y dylai'r ward gytuno ar gynllun presenoldeb gyda chi i sicrhau eich bod chi a'ch teulu yn gallu cefnogi eich anwylyd.
Cynlluniau Presenoldeb
Ar gyfer unrhyw gleifion y nodwyd eu bod ar lwybr lliniarol, dylid cytuno ar gynllun presenoldeb gyda chi i sicrhau eich bod chi a'ch teulu yn gallu bod yn bresennol yn ôl yr angen.
Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod yr hyn rydyn ni'n gwybod sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn i gleifion a'u hanwyliaid. Hoffem eich sicrhau bod pob penderfyniad wedi'i wneud er lles gorau'r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt, y bobl sy'n gweithio yn ein cyfleusterau ac yn ymweld â nhw, a'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.
Parthau Gwyrdd
Ardaloedd lle mae Cleifion wedi cael eu derbyn ar gyfer llawdriniaeth ddewisol. Gall cleifion gael dau ymwelydd am uchafswm o un awr y dydd, a dylid trefnu hyn a chytuno arno gyda’r adran glinigol ymlaen llaw.
Mae ein trefniadau ymweld ac apwyntiadau yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd.