Mae gwaith adeiladu Meddygfa newydd Rhydlafar bellach ar y gweill, gan nodi cam pwysig ymlaen ar gyfer darpariaeth gofal iechyd lleol. Ers dros ddeng mlynedd, mae gwasanaethau wedi cael eu darparu o gaban bach dros dro gyda dim ond dwy ystafell glinigol, sydd wedi dod yn fwyfwy anaddas ar gyfer anghenion y gymuned.
Mae disodli'r llety dros dro hwn wedi bod yn flaenoriaeth ers tro byd, ac mae'r adeilad newydd yn cefnogi Strategaeth Llunio Ein Llesiant i'r Dyfodol 2023–2035 y Bwrdd Iechyd, sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i fyw bywydau iachach a lleihau anghydraddoldebau.
Bydd y cyfleuster pwrpasol newydd yn darparu mwy o le ar gyfer gofal cleifion, yn cefnogi'r practis i reoli'r galw yn y dyfodol, ac yn helpu i ddenu clinigwyr a gwasanaethau ychwanegol. Bydd hefyd yn cynnig llety gofal iechyd modern, addas at y diben i'r boblogaeth leol ac yn creu cyfleoedd i gydweithio'n agosach â gwasanaethau clwstwr a chymunedol yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau yn ein cylchlythyrau wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mawrth 2025. Mae'r diweddariadau am yr adeiladu ar gael yn adran y Newyddion Diweddaraf.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.