Neidio i'r prif gynnwy

Adain Glan-y-Llyn Ysbyty Athrofaol Cymru

Ar 8 Chwefror 2021, mae gwaith adeiladu'r cyfleuster ymchwydd newydd wedi'i gwblhau, dim ond 20 wythnos ar ôl dechrau ei adeiladu. Mae hyn yn golygu bod y prif gontractwyr, Darwin Group Ltd, wedi trosglwyddo perchenogaeth ar yr adeilad modwlar i'r Bwrdd Iechyd.

Daw'r newyddion hyn yn fuan wedi'r cyhoeddiad fod Adain Glan-y-Llyn, ddydd Sul, 27 Rhagfyr 2020, wedi derbyn ei glaf cyntaf - dim ond 107 o ddiwrnodau ar ôl dechrau ei adeiladu.

Mae Adain Glan-yr-Afon yn gyfleuster llai dwys, lle y bydd cleifion yn cael adsefydlu hanfodol yn dilyn cyfnod o salwch acìwt, ac nid o reidrwydd Covid-19.

Wrth i Adain Glan-yr-Afon fabwysiadu model gofal amlddisgyblaethol, mae staff sy'n cynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, dietegwyr, fferyllwyr, gweithwyr cymorth gofal iechyd a nyrsys cofrestredig oll yn gweithio yn y cyfleuster tri llawr.

Cafodd y Bwrdd Iechyd fuddsoddiad o £33miliwn gan Lywodraeth Cymru i adeiladu cyfleuster ymchwydd dros dro i sicrhau bod digon o gapasiti ymchwydd ar gael pe bai cynnydd sydyn ym mhandemig COVID-19. Daw hyn ar ôl i ni gytuno â Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i ddatgomisiynu'r defnydd o Stadiwm y Principality fel Ysbyty Maes o 12 Tachwedd 2020.

Ar ôl gwerthusiad trylwyr o opsiynau, gwerthuswyd mai ardal y tu allan i Lan-y-Llyn ar ein safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru oedd yr opsiwn gorau ar gyfer adeiladu adeilad modwlar dros dro, siâp U, a elwir yn 'Adain Glan-y-Llyn Ysbyty Athrofaol Cymru'. 

Mae lle yn Adain Glan-y-Llyn Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer 400 o welyau; bydd hyn, ynghyd â'r 200 o welyau ychwanegol sydd ar gael ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, yn caniatáu i ni ddarparu cyfanswm o 600 gwely, sy'n bodloni'r gofyniad fel y cafodd ei ragfynegi gan Lywodraeth Cymru a modelu a data deallusrwydd lleol.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ddydd Sadwrn, 12 Medi, a chwblhawyd y gwaith adeiladu fesul y camau canlynol:

Cam 1 – adain Ogleddol yr adeilad - roedd 166 o welyau ar gael o ddydd Gwener, 4 Rhagfyr 2020, ymlaen

Dydd Sul 27 Rhagfyr 2020 - derbyniodd Adain Glan-yr-Afon ei chlaf cyntaf 

Cam 2 – adain Ddeheuol yr adeilad - roedd 234 o welyau ar gael erbyn 28 Ionawr 2021 

Dydd Llun 8 Rhagfyr 2021 – Gorffennwyd y gwaith adeiladu a throsglwyddodd Darwin Group Ltd yr adeilad modwlar yn ffurfiol i'r Bwrdd Iechyd.

 


Cwestiynau Cyffredin

Dilynwch ni