I ddod o hyd i sifftiau sydd ar gael mae gennych nifer o opsiynau, gallwch:
I archebu sifft sydd ar gael gallwch:
Yn dibynnu ar y meysydd clinigol, mae rhai sifftiau ar gael gymaint â 4 wythnos ymlaen llaw.
Os digwydd hyn ‘Allan o Oriau’ yna cysylltwch â’r ward rydych wedi eich dynodi iddi cyn gynted â phosib, a rhowch wybod iddynt nad ydych yn gallu gweithio’r sifft.
Os yw hyn mewn oriau arferol, yna cysylltwch â'r Adran Staffio Dros Dro. Ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosibl i'n helpu i lenwi'r sifft rydych chi'n ei chanslo.
Rydych chi'n gallu gweithio hyd at 52.2 awr yr wythnos, yn unol â'r gyfarwyddeb amser gwaith Ewropeaidd. Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynghylch y gyfarwyddeb amser gwaith, mae'r Polisi Amser Gweithio wedi'i restru ar ein tudalen polisïau'r gweithlu.
Fel nyrs banc, rydych chi'n gyffredinol yn dewis ble rydych chi am weithio, ond nodwch y gallwch chi gael eich symud o bryd i'w gilydd oherwydd angen clinigol - eithriadau yw pan fyddwch chi'n archebu sifft 'POOL'.
Yn gyntaf, mae'n syniad da bob amser cysylltu â'r maes clinigol y buoch yn gweithio ynddo, er mwyn gwirio a yw'r sifft wedi'i dilysu.
Os yw'ch sifft wedi'i dilysu, yna mae angen i chi gysylltu â'r adran gyflogres.
Os nad ydych wedi gweithio sifft mewn 3 mis, bydd angen i chi gysylltu â'r Adran Staffio Dros Dro yn gyntaf cyn archebu unrhyw sifftiau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae yna nawr dudalen Facebook Adran Staffio Dros Dro, y gallwch ofyn am gael ymuno â hi.