Neidio i'r prif gynnwy

Pan rwyf dan straen ...

Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Straen, gofynnwyd ichi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud i reoli straen. Dyma beth ddywedasoch chi.

Rwy’n sefyll yn y swyddfa ar un goes, yn codi fy mreichiau uwch fy mhen ac yn dweud “Rydw i eisiau bod yn goeden”. Mae'n rhoi gwên ar fy wyneb, oherwydd mae'n fy atgoffa o reolwr flynyddoedd yn ôl a oedd yn wirioneddol frwd am reoli straen staff.
Ymarfer (3) Treulio amser gyda'r plant siarad â fy ngŵr Glanhau'r tŷ Mynd am dro
Anadlu'n ddwfn Defnyddio fy ap myfyrdod Yfed gwin Edrych ar sothach ar y teledu Glanhau a chrio
Ymarfer yn rheolaidd Gwylio fy hoff ffilm Chwarae cerddoriaeth Rhedeg Saethu pobl ddrwg (ar gemau fideo!)
Siarad â ffrindiau a chydweithwyr. Mae meddwl drwy broblem yn helpu Bwyta siocled Rhoi clustffonau ymlaen a dawnsio o amgylch y tŷ Canolbwyntio ar y teulu Bwyta bwyd sothach
Chwarae cerddoriaeth a dawnsio - hyd yn oed yn y gwaith Mynd am dro hir   Ceisio gwneud rhywbeth hwyl Sgrechian
Siarad am y peth gyda ffrindiau agos a theulu Paentio Gwrando ar fy hoff gerddoriaeth Gweiddi ar y plant Bwyta a chysgu
Rwy'n rhedeg neu rwy'n cerdded ac yn cael gwared ar y gwe pryf cop. Wrth gerdded, rwy'n astudio popeth o'm cwmpas ac yn ceisio bod yn ymwybodol iawn o fy amgylchedd. Pan fyddaf yn rhedeg, does gen i ddim amser i werthfawrogi hynny i gyd, ac mae'r ddeialog gyson yn fy mhen ynglŷn â rhedeg y pellter angenrheidiol yn tynnu fy sylw oddi wrth y straen. Mae'r wefr ar y diwedd yn eithaf anhygoel….

Nid oes ateb cyflym i wella straen, ond mae pethau syml y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu chi i deimlo llai o straen. Mae'r rhain yn cynnwys ymlacio, ymarfer corff, bwyta diet iach a chytbwys, a siarad â rhywun. Cofiwch, does dim rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun.

Nid yw pob un o'n hymatebion pan fyddwn yn teimlo dan straen yn fuddiol, gall rhai wneud inni feddwl ein bod yn teimlo'n well dros dro ond maent yn cael effaith negyddol arnom.

 

 

Dilynwch ni