Neidio i'r prif gynnwy

Ymwybyddiaeth Straen

Rydyn ni i gyd yn gwybod sut beth yw teimlo dan straen - mae bod dan bwysau yn rhan arferol o fywyd. Ond gall cael eich llethu gan straen arwain at broblemau iechyd meddwl neu waethygu problemau presennol.

Mae'r dydd Mercher cyntaf ym mis Tachwedd bob blwyddyn yn Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen, sy'n gyfle gwych i gymryd eiliad i feddwl am ein llesiant a dod o hyd i gyngor neu gefnogaeth i reoli straen.

Er mwyn cynnal ein llesiant, mae sylwi ar yr hyn sy'n peri straen inni yn ein helpu i ddysgu sut y gallwn ddelio ag ef. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y gweithle, lle mae straen llwyth gwaith a pherthnasoedd gwaith yn gyffredin.

Gall wneud gwahaniaeth enfawr os gallwch chi rannu sut rydych chi'n teimlo gyda ffrindiau a chydweithwyr. Trwy rannu, fe allech chi gael cyngor ac awgrymiadau gwych neu ddarganfod y gallwch chi gefnogi cydweithwyr eraill sydd angen help.

Gofynnwyd ichi ddweud wrthym beth a wnewch pan fyddwch dan straen. Darllenwch yr hyn a ddywedasoch wrthym yr ydych yn ei wneud. 

Adnoddau i helpu gyda straen

Dilynwch ni