Neidio i'r prif gynnwy

Y Gaplaniaeth

Croeso i'r Adran Gaplaniaeth

Gweithio i ddarparu gofal ysbrydol, bugeiliol, crefyddol fel rhan annatod o ofal iechyd modern.

Caplaniaid Ysbyty - Beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Caplaniaid Ysbyty yn darparu gofal ysbrydol i gymuned yr ysbyty. Maent yn cymryd eu lle ochr yn ochr â'r tîm amlddisgyblaethol sy'n ceisio darparu gofal cyfannol i gleifion a'r rhai sy'n agos atynt.

Gofal ysbrydol yw'r gofal hwnnw sy'n cydnabod ac yn ymateb i anghenion yr ysbryd dynol wrth wynebu trawma, afiechyd neu dristwch a gall gynnwys yr angen am ystyr, hunan-werth, i fynegi'ch hun, i gael cefnogaeth ffydd, efallai ar gyfer defodau neu weddi neu sacrament, neu'n syml i gael gwrandäwr sensitif.

Mae'r gwasanaeth a gynigiwn yn gyfrinachol ac yn anfeirniadol ac mae ar gael i bawb. Rydym yn gweithio mewn cyd-destun aml-ffydd, ond nid yw'n ymwneud â chrefydd yn unig, oherwydd mae hyd yn oed pobl o ddim crefydd, anffyddwyr ac agnostigion angen clust i wrando, a bydd Caplaniaid yn gwneud amser i ymweld.

Cyfarfod â Thîm Caplaniaeth Caerdydd a'r Fro

Caplaniaid amser llawn:
Parch Jason Tugwell (Rheolwr y Gaplaniaeth)
Y Tad Peter Davies
Parch Caroline John.
Caplaniaid rhan-amser:
Parch Christine Powell
Parch Rachel Lewis
Parch Catherine Brobbey
Y Tad David Prichard.

Caplaniaid Moslemaidd:
Imam Farid Khan
Y Chwaer Amina Shabaan


Caplainiaid Iddewig
Rabbi Michael Ros

Cefnogir caplaniaid gan ein Tîm o tua 30 o Wirfoddolwyr Lleyg. Mae'r rhain yn bobl sy'n helpu gydag ymweld â wardiau.


Cysylltwch â ni

Ffôn: 02921 843230
e-bost: spiritual.careteam@wales.nhs.uk

Cyfarfod â Thîm Caplaniaeth Caerdydd a'r Fro


Lle rydyn ni'n gweithio

Mae Tîm Caplaniaeth Caerdydd a'r Fro yn darparu gofal yn yr ysbytai canlynol:

  • Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), gan gynnwys Ysbyty Plant Cymru
  • Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl)
  • Ysbyty Rookwood
  • Ysbyty Dewi Sant
  • Ysbyty'r Barri
  • Ysbyty Felindre

Mae lle addoli yn y mwyafrif o'r ysbytai hyn.

Mae gennym Wasanaeth Dydd Sul am 2.30pm yn y Cysegr yn YAC. Gweler hysbysfwrdd Noddfa'r Cysegr am fanylion. Mae Offeren ddyddiol YALl am 2pm yn y Capel yn Llandochau, a dydd Mercher yn YAC am 10am.

Mae Caplan ar ddyletswydd bob dydd Sul, a gellir trefnu gwasanaethau byr wrth erchwyn y gwely ar gyfer unrhyw glaf sy'n dymuno rhannu mewn gwasanaeth. Ar gyfer cleifion sy'n symudol ac sy'n gallu cyrraedd y Cysegr (Capel) ar eu pennau eu hunain, gellir trefnu gwasanaethau gweddi a chymun yn y Cysegr yn lle wrth erchwyn y gwely. Mae'r capeli a'r ystafelloedd gweddi ar agor 24/7 i unrhyw un ymweld â nhw a threulio amser yno.

Ar gyfer staff ac ymwelwyr Moslemaidd, mae gweddi gynulleidfaol ddydd Gwener yn digwydd yn yr ardaloedd addoli Moslemaidd yn YAC a YALl.


Adnoddau a Dolenni defnyddiol

Profedigaeth

Gwasanaeth Profedigaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro COVID-19
Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Athrofaol Cymru
Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Athrofaol Llandochau

 

 

Dilynwch ni