Neidio i'r prif gynnwy

Trafodaeth Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd - Cofnodi'r Canlyniad

Rhaid cofnodi canlyniad y drafodaeth Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd ar ESR. Y darnau craidd o wybodaeth y mae'n rhaid eu cofnodi yw;

  1. Dyddiad y Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd
  2. Safle ar y Fframwaith Sgwrs Gyrfa
  3. Cynllun Datblygiad Personol
  4. Datblygiad Cyflog [rhagor o wybodaeth]
I gael gwybod sut mae lanwytho'r Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd i ESR, cliciwch yma
 
1. Dyddiad y Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd 
 
Rydych yn gallu cofnodi gwerthusiad fwy nag unwaith y flwyddyn. Byddai hyn fel arfer yn digwydd pe byddai gennych aelod newydd o staff neu rywun y mae angen cymorth tymor byr arno, a bod ei anghenion datblygiad neu ei safle ar y fframwaith yn newid. Byddech yn cofnodi hyn yn yr un ffordd â'r Gwerthusiad Blynyddol. 
 
2. Safle ar y Fframwaith Sgwrs Gyrfa
 
Ni waeth ble mae rhywun ar y fframwaith ar yr adeg hon, nid oes rhaid iddo aros yno o reidrwydd am 12 mis. Ar ôl unrhyw gyfarfod adolygu, os bydd y ddau ohonoch yn cytuno, gallwch gofnodi gwerthusiad a safle newydd ar y fframwaith. 
 
3. Cynllun Datblygiad Personol
 
Mae'n bwysig eich bod yn cofnodi pob datblygiad sydd ei angen ar yr unigolyn yn syth ar ESR (nid atodi gwaith papur y Gwerthusiad yn unig) er mwyn ei gynnwys yn y cynlluniau Dysgu ac Addysg. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddatblygiad mewnol ac allanol, hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol, mentora, cysgodi a chyfnewid swydd, ni waeth a ydynt yn gyfleoedd am dâl neu am ddim. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu hyfforddiant a chymorth yn fwy effeithlon ac effeithiol yn y dyfodol. 
 
Cewch wybod yma sut mae cofnodi'r Cynllun Datblygiad Personol ar ESR.
 
4.  Datblygiad Cyflog
 
Mae gennych yr opsiwn i gofnodi datblygiad cyflog yn y man hwn ond gallwch hefyd ddychwelyd a'i gofnodi'n nes ymlaen os yw hynny'n well gennych. Cewch wybod rhagor yma am y broses Datblygiad Cyflog. 
 
Dilynwch ni